Dwy fyfyrwraig sydd wedi cael y fraint o ddylunio legins eco-gyfeillgar i Dîm Cymru eu gwisgo yn ystod Gemau’r Gymanwlad.

Cymreictod, cynaliadwyedd a chreu pâr o legins fyddai’n gallu cael eu gwisgo dro ar ôl tro oedd prif ystyriaethau Olivia Soady a Bethan Jones wrth fwrw ati i ddylunio.

Enillodd y ddwy, sydd newydd orffen eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, gystadleuaeth a gafodd ei gosod gan Gemau’r Gymanwlad Cymru ar y cyd â’r brifysgol.