Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Grown Ups gan Marian Keyes. Dw i newydd orffan Y Sŵ gan Tudur Owen a dw i’n siŵr fydda i ddim yn chwerthin yn darllen y nofel hon fel gwnes i yn darllen bywgraffiadur Tudur a oedd mor dda. Ond ar ôl gwrando ar y Wyddeles yn siarad am ei gwaith yn portreadu cymeriadau’n fanwl penderfynais roi tro arni. Mae’n argoeli’n dda ar hyn o bryd.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd