Syniad un o gynghorwyr lleol Tregaron oedd codi cylch cerrig parhaol i gofio am ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref. Mae Owain Pugh yn weithgar iawn yn ei fro, ac yn brysurach fyth wrth i’r ardal baratoi at groesawu’r Eisteddfod.

Wedi’i fagu ar fferm ddefaid a gwartheg yn Llanddewi Brefi, mae Owain bellach yn byw yn Nhregaron ac yn rheolwr ar siop amaethyddol Wynnstay ym mhentref Bethania. Roedd Owain yn un o’r rhai fuodd wrthi’n rhoi’r maen i’r wal, a chodi’r cylch cerrig hefyd.