O’i chartref yn Llanrug ger Caernarfon, mae pobydd ifanc wrth ei bodd â’r her o greu cacennau i gyd-fynd â dymuniadau ei chwsmeriaid.

Dechreuodd Sadie Griffiths ei busnes, Tamad, yn 2019, a’r cyfle i fod yn greadigol wrth fynd ati i ddylunio ac addurno’r danteithion blasus sy’n apelio ati’n bennaf.