Mae angen cofio mai cynnig lle diogel i Wcráin gynnal yr Eurovision mae’r Deyrnas Unedig, ac nid yn ei chynnal eu hunain, yn ôl y digrifwr Esyllt Sears.

Mae hi’n dweud bod yna ymdeimlad “bod y naratif i gyd o gwmpas y Deyrnas Unedig”, a phawb wedi’u dal yn y cyffro pan ddaeth y cyhoeddiad mai yn y Deyrnas Unedig fyddai’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Mae’r holl drafod am bwy ddylai gyflwyno a lle dylid cynnal y gystadleuaeth wedi cyfrannu at yr ymdeimlad hwnnw, meddai.

Ddechrau’r wythnos, cadarnhaodd y BBC eu bod nhw wedi derbyn gwahoddiad Undeb Darlledu Ewrop (EBU) i gynnal y gystadleuaeth Eurovision nesaf, gan nad yw hi’n bosib cynnal y digwyddiad yn Wcráin yn sgil y rhyfel yno.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am gynnal y gystadleuaeth yng Nghaerdydd, a bellach mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod nhw’n awyddus hefyd.

Naratif am y Deyrnas Unedig

Fodd bynnag, pan gyhoeddodd y BBC mai yn y Deyrnas Unedig fydd Eurovision 2023, gofynnodd Esyllt Sears ar Twitter pam na fedrith y Deyrnas Unedig lwyfannu Eurovision, ond gadael i Wcráin ei gynnal.

“Popeth roeddwn i wedi’i ddarllen ar y cyfryngau cymdeithasol a’r holl adroddiadau roeddwn i’n bersonol wedi’u clywed ar y newyddion y diwrnod hwnnw pan wnaethon nhw gyhoeddi mai ym Mhrydain fydde fe, roeddwn i jyst yn cael y teimlad bod y naratif i gyd o gwmpas y Deyrnas Unedig,” eglura wrth golwg360.

“Doeddwn i ddim yn clywed lot ambyti Wcrain. Fyddet ti’n clywed, wrth gwrs, mai nhw enillodd, a’u bod nhw methu ei gynnal e ac yn y blaen.

“Yn amlwg, dw i methu gwylio a darllen bob [peth ar y] cyfryngau ond o be’ roeddwn i wedi’i glywed, roedd e’n teimlo bod e i gyd ambyti’r Deyrnas Unedig.

“Roedd yna lot o drafod ambyti pwy ddyle fod yn ei gyflwyno fe, roedd pobol wastad yn cynnig cyflwynwyr enwog o’r Deyrnas Unedig ac yn y blaen. Mae’r holl fusnes yma o le mae e’n mynd i gael ei gynnal, mae yna ryw fath o ras nawr i weld pa leoliad… dw i’n gwybod bod yna sôn am ambyti Stadiwm Principality ac ati.

“Roedd e’n dechrau teimlo i fi fel bod e’n cael ei hijacio ychydig. Achos o beth roeddwn i’n ei ddeall, a dw i’n cymryd yn ôl beth mae rhai pobol wedi dweud wrtha i ers hynna, yw mai bwriad y BBC yw jyst hwyluso’r peth.

“Ddim dyna ddaeth drosodd pan gafodd y peth ei gyhoeddi.”

‘Rhoi lle saff i Wcráin’

Doedd Esyllt Sears ddim yn dymuno gwylltio neb â’i thrydariad, ond roedd hi’n teimlo bod angen dweud rhywbeth gan ei bod hi’n teimlo bod pawb yn cael eu casglu yng nghyffro’r peth.

“Ddyle bod ni’n cofio mai dim ni enillodd a ddyle bod ni jyst yn rhoi lle saff ar gyfer i Wcráin wneud beth maen nhw eisiau,” meddai.

“Dw i’n gobeithio, a dw i’n cymryd fyddan nhw yn cael rhywfaint o ddweud yn hyn achos mai eu digwyddiad nhw yw e ond eu bod nhw’n methu ei gynnal e yn eu gwlad eu hunain.

“Roedd e wedi cyrraedd pwynt lle roedd e jyst yn teimlo fel bod e gyd ambyti lle ym Mhrydain, pwy fyddai’n cyflwyno, tra ddyle bod ni’n cofio pam bod e’n cael ei gynnal fan hyn.

“Mae e ond yn cael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig achos bod rhyfel yn Wcráin.”

Galw am gynnal Eurovision yng Nghaerdydd

Mae nifer wedi bod yn rhannu eu brwdfrydedd i gynnal y gystadleuaeth yng Nghaerdydd ar Twitter