Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod yr awdurdod lleol yn ystyried y posibilrwydd o gynnal Eurovision yn 2023.

Dywed y Cynghorydd Huw Thomas fod y Cyngor yn cydweithio â’u partneriaid i ddeall y gofynion, y manylebau a chost cynnal Eurovision ym mhrifddinas Cymru.

Cadarnhaodd y BBC ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 27) eu bod nhw wedi derbyn gwahoddiad Undeb Darlledu Ewrop (EBU) i gynnal y gystadleuaeth Eurovision nesaf.

“Mae gan Gaerdydd enw da ar draws y byd am fod yn ddinas heb ei hail pan ddaw i gynnal digwyddiadau mawr,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Mae pawb yn sôn am yr awyrgylch y gall Caerdydd ei greu a’r cynhesrwydd a phersonoliaeth unigryw mae pobol yn ei fwynhau wrth ddod yma a dod o hyd i ganol dinas sydd mor hunangynhaliol ac mor agos at galon yr hyn sy’n digwydd.”

Wcráin enillodd cystadleuaeth ganu Eurovision yn Torino eleni, ond yn sgil y rhyfel parhaus yn y wlad yn dilyn ymosodiad arni gan Rwsia, penderfynwyd na fyddai’n cynnal y gystadleuaeth.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi cynnal y gystadleuaeth – oedd wedi denu dros 180m o wylwyr fideo eleni – wyth gwaith, gyda Llundain, Birmingham, Caeredin, Harrogate a Brighton yr unig lefydd yn y wlad i’w chynnal hi hyd yn hyn.

‘Anrhydedd’

“Byddai’n fraint i Gaerdydd gael cynnal Eurovision, yn enwedig eleni wrth i ni groesawu cynifer o ffoaduriaid Wcreinaidd i’r ddinas,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas.

“Wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau agos ag Wcráin hefyd, gyda threfniant gefeillio hirdymor rhwng Caerdydd a Luhansk, tra bod Donetsk wedi’i sefydlu gan John Hughes, Cymro o Ferthyr aeth yno’n wreiddiol i ddatblygu gweithfeydd metel yn y rhanbarth.

“Bydd cais llwyddiannus yn gofyn am ddull Tîm Caerdydd, ac mae’r Cyngor yn cydweithio â phartneriaid nawr i ddeall y gofynion, manylebau a’r costau llawn sydd ynghlwm wrth gynnal Eurovision.

“Rydym yn gwybod y gallai Caerdydd gynnal digwyddiad gwych, a byddai dod ag Eurovision i Gymru, gwlad y gân, yn gweddu i’n Strategaeth Gerddoriaeth a lle Caerdydd fel dinas gerddoriaeth gyntaf y Deyrnas Unedig.

“Rydym wedi cyffroi ynghylch eistedd o amgylch y bwrdd gyda’n partneriaid i weld beth sy’n gallu cael ei wneud.”

Capasiti

Yng nghyfarfod y Cyngor fis diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas pan gafodd ei holi am allu’r ddinas i gynnal digwyddiadau mawr yn y dyfodol, y byddai angen gweithio ar gapasiti’r farchnad westai yng Nghaerdydd.

Pan gafodd terfynau posib y ddinas eu codi yn y cyfarfod, gyda diffyg gwestai yn un o’r ffactorau gafodd eu crybwyll, cyfeiriodd at yr arena 15,000 o lefydd sydd wedi’i grybwyll yn Nhre-biwt.

“Rydym hefyd yn gwybod o’r sgyrsiau gawson ni gyda pherchnogion gwestai yn y ddinas eu bod nhw’n edrych ar y datblygiad hwnnw’n frwd ac yn barod ar gyfer dechrau cyflwyno’r arena fel y byddan nhw’n ymateb yn eu tro gyda datblygiadau newydd ar gyfer gwestai.”