Mae cyfnodau hir o dywydd sych wedi arwain at bryderon am danau gwyllt a lefelau isel o ddŵr yn afonydd Cymru, yn ogystal â’r effaith ar amaethyddiaeth.
Dim ond 62% o’r glawiad cyfartalog welodd Cymru rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, ac mae hynny, ynghyd â’r tywydd poeth eithafol diweddar, wedi arwain at lif isel mewn afonydd.
Mae rhai afonydd wedi sychu’n gyfan gwbl hyd yn oed, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er bod glaw mewn rhai mannau dros y penwythnos wedi adfer rhai afonydd, mae eraill yn andros o isel, meddai.
Gan nad oes disgwyl glaw sylweddol yn fuan, mae hi’n debyg y bydd lefelau dŵr yr afonydd sydd wedi adfer yn gostwng eto.
Mae afonydd gyda llif isel a thymheredd uchel yn achosi mwy o straen ar bysgod, ac yn ogystal â hynny mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn delio â thanau gwyllt, gan gynnwys rhai yng Nghoedydd Rheidiol, sy’n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger Aberystwyth.
Sychder
Yn ddiweddar, bu Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod â grŵp sychder ar gyfer Lloegr, a daeth i’r amlwg bod y tywydd sych yn effeithio Cymru a Lloegr yn wahanol.
Mae’r rhan fwyaf o ddŵr Cymru’n dod o ffynonellau uwchben y tir, tra bod rhannau o Loegr yn casglu dŵr o dan y ddaear.
Er bod y pryderon yn debyg yn y ddwy wlad, byddan nhw’n datblygu’n wahanol ac ar gyflymdra gwahanol yn dibynnu sut mae’r sefyllfa’n datblygu, meddai Cyfoeth Naturiol.
Ar y funud, mae pryderon penodol yng Nghymru ynghylch effaith y tywydd sych ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth, systemau rheoli tir, a chadwyni cyflenwi dŵr.
Pedwar mis sychaf ers bron i 40 mlynedd
Dywed Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, fod cyfnodau hir o dywydd sych yn “gallu effeithio ar rai o’n cynefinoedd a rhywogaethau mwyaf gwerthfawr”.
“Gall effeithio ar sectorau fel amaethyddiaeth hefyd, gan roi pwysau ar y system gyflenwi dŵr ac effeithio llesiant pobol,” meddai.
“Mae ein timau wedi bod yn monitro ac ymateb i ddigwyddiadau wrth weithio gyda rheoleiddwyr eraill, Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr, awdurdodau llywio a sefydliadau eraill er mwyn deall y pryderon sy’n dod i’r amlwg a’r ymateb sydd ei angen.
“Y pedwar mis diwethaf yw’r pedwar sychaf ers bron i 40 mlynedd, gan wneud dŵr yn adnodd gwerthfawr.
“Rydyn ni’n anodd y cyhoedd i arbed dŵr ble mae hynny’n bosib.”