Mae budd-daliadau sydd wedi’u datganoli yng Nghymru’n rhy gymhleth, yn ôl adroddiad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.

Mae’r pwyllgor wedi bod yn edrych ar frys ar yr heriau sy’n wynebu pobol yn ystod yr argyfwng costau byw, gan rybuddio Llywodraeth Cymru y gallai pobol fod ar eu colled o ran gwasanaethau allweddol oherwydd system or-gymhleth.

Budd-daliadau yng Nghymru

Ar hyn o bryd, caiff budd-daliadau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru eu talu mewn sawl ffordd wahanol.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r syniad o lunio porth un stop i aelwydydd ledled Cymru wneud cais yn uniongyrchol am y gwahanol gynlluniau sydd ar gael drwy brawf moddion.

Yn ôl yr adroddiad, nid yn unig y byddai hyn yn gwneud y broses yn haws ond yn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y budd-daliadau dan sylw, ac yn helpu i roi terfyn ar y loteri cod post o ran systemau sy’n amrywio fesul ardal awdurdod lleol ar hyn o bryd.

Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ehangu meini prawf cymhwysedd ei chynlluniau sydd ar gael drwy brawf modd i gefnogi aelwydydd incwm is wrth iddyn nhw wynebu costau byw, biliau ynni a phrisiau bwyd sy’n cynyddu’n aruthrol.

Cefnogi cymunedau gwledig

Mae cartrefi nad ydyn nhw ar y grid yng nghefn gwlad Cymru yn talu “premiwm gwledig”, yn ôl yr adroddiad, gyda chostau fel prisiau olew gwresogi wedi cynyddu 128% yn ystod y 12 mis diwethaf, a diffyg cymorth ar lawr gwlad.

Mae’r pwyllgor yn awgrymu mai dim ond 2,000 o’r 275,000 o gartrefi nad ydyn nhw ar y grid sy’n gallu manteisio ar ymyriadau drwy dalebau fel y gronfa cymorth dewisol.

Mae’n dweud bod yn rhaid i gymorth cadarn fod ar gael i ddefnyddwyr nad ydyn nhw ar y grid cyn y gaeaf, a bod angen cymorth tymor hwy ar gyfer cartrefi anoddach eu cyrraedd.

Pobl mewn gwaith

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi pobol mewn gwaith sy’n ei chael hi’n fwyfwy anodd, ac yn galw ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i dalu’r cyflog byw gwirioneddol.

Mae’r pwyllgor yn tynnu sylw at sefydliadau fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, y mae’n rhaid iddynt godi cyflogau a gwella amodau fel tâl salwch.

Heb ymyriadau i ymdrin â chostau byw, bydd mwy o achosion o weithwyr yn wynebu afiechyd meddwl oherwydd y pwysau ariannol cynyddol, meddai’r adroddiad.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i gefnogi pobol sydd eisoes yn dioddef.

Busnes

Mae’r pwyllgor yn am ymyriadau i sicrhau fod busnesau yn goroesi’r cynyddiad yng nghostau byw.

Mae’r aelodau’n galw am fesurau tymor byr, yn debyg i’r gefnogaeth derbyniodd busnesau yn ystod Covid, ac yna cynlluniau hirdymor i leihau dibyniaeth ar olew a nwy.

“Gellir gweld effaith costau byw cynyddol ledled Cymru,” meddai Paul Davies, cadeirydd y pwyllgor.

“Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi pobol drwy’r argyfwng, mae ein hymchwiliad wedi dangos nad yw’r gefnogaeth honno’n cyrraedd digon o bobol – mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn gymhleth a gall hynny effeithio ar y nifer sy’n manteisio arnynt.

“Mae angen inni weld system symlach, fel bod y cynlluniau’n gliriach ac yn fwy hygyrch, i gynyddu’r nifer sy’n manteisio arnynt.

“Mae’r pwyllgor o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei ‘phŵer meddal’ sylweddol i wella telerau ac amodau’r bobol sy’n ennill y cyflogau isaf; er enghraifft, drwy wella tâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol a rhoi cyflog teg i’r bobl sy’n cael eu talu o’r pwrs cyhoeddus.

“Rwy’n arbennig o bryderus am effaith costau cynyddol tanwydd gwresogi.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu cyn y gaeaf i gefnogi pobol sy’n byw mewn cartrefi gwledig nad ydynt ar y grid.”