Bydd £217.1m yn cael ei ddyrannu i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.

Mae hyn yn cynnwys £105.6m ar gyfer ymchwil ac arloesi, a bydd £81.7m o’r swm hwnnw ar gyfer cyllid ymchwil cylchol (cyllid ymchwil o ansawdd).

Mae’r grant yn gwobrwyo rhagoriaeth ymchwil gynaliadwy, ac eleni mae’n defnyddio ansawdd a maint yr ymchwil fel sy’n cael ei ddangos gan ganlyniadau ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.

Bydd cyllid Ymchwil o Ansawdd ar yr un lefel ar y cyfan ag yn 2021/22, gyda’r dyraniadau terfynol yn bennaf yn adlewyrchu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, ynghyd â rhai newidiadau i’r dull cyllido ymchwil.

Mae cyllid ychwanegol o £2.7m wedi cael ei ddyrannu i leddfu’r effaith ar brifysgolion y mae eu dyraniad Ymchwil o Ansawdd yn is na’r llynedd.

Bydd y cyllid sy’n weddill i brifysgolion a darparwyr eraill i gefnogi, ymhlith pethau eraill, pynciau drud a chost uwch israddedig amser llawn, cyrsiau israddedig rhan-amser, prentisiaethau gradd, datblygiadau cyfalaf, lles ac iechyd myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, a chyflogadwyedd.

‘Gwelliant amlwg mewn canlyniadau’ yn y sector yng Nghymru

“Rydym yn falch i barhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn addysg uwch,” meddai Dr David Blaney, prif weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

“Mae ein dyraniadau’n dangos y pwys y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi, trwy ei buddsoddiad parhaus mewn addysg uwch, ar gefnogi myfyrwyr, profiad myfyrwyr, a’u hiechyd a’u lles, gan gynnwys eu hiechyd meddwl.

“Rydym hefyd wedi gweld cyllid sylweddol yn cael ei ddarparu ar gyfer datblygiadau sero net.

“Rydym yn parhau i gydnabod ymchwil ac arloesi rhagorol, gan gynnwys trwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn.

“Rydym hefyd yn cydnabod ac yn gwobrwyo canlyniadau sefydliadol Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, gan gyfrannu at gapasiti ymchwil hollbwysig yng Nghymru.

“Fodd bynnag, er ein bod wedi gweld gwelliant amlwg mewn canlyniadau ar gyfer y sector yng Nghymru ym mhob agwedd ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, o’i gymharu â’r ymarfer blaenorol, mae ein cyllid ymchwil craidd wedi aros yn sefydlog ond nid yw wedi cynyddu.

“O ganlyniad, mae rhoi canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 ar waith wedi arwain at amrywiadau yn y cyllid oherwydd y gwahaniaeth mewn perfformiad cymharol rhwng darparwyr.”

‘Gwthio ffiniau’

“Byddwn yn sicrhau nad yw effaith ariannol unrhyw ostyngiad yn effeithio ar gapasiti ymchwil ein sefydliadau eleni, trwy ddarparu cyllid lliniaru byrdymor,” meddai wedyn.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein cyllid ymchwil craidd i gefnogi a chynnal ymchwil mewn darparwyr addysg uwch a sut y mae’n helpu sefydliadau i gystadlu ac ennill cyllid ychwanegol o gronfeydd eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

“Er bod ein cyfraniad ariannol at hyn wedi aros yn sefydlog, mae’r rhagolygon o gynyddu hyn yn hollbwysig fel bod ein prifysgolion yn gallu cynnal ansawdd, effaith a bri eu hymchwil a datblygu’r rhain ymhellach.

“Mae darparwyr addysg uwch yn parhau i wthio ffiniau gydag ymchwil ac arloesi, ynghyd â’u harlwy dysgu ac addysgu digidol i fyfyrwyr, gyda’r nod o wella profiadau myfyrwyr, a gwella canlyniadau.

“Mae parhau i fuddsoddi mewn darparwyr addysg uwch cryf a chynaliadwy yng Nghymru’n hollbwysig gan eu bod yn dal i fod yn allweddol i adferiad economaidd a chymdeithasol ein cenedl.”