Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o brynu tir amaethyddol “o’r radd flaenaf” ar gyfer plannu coed – gan brisio ffermwyr lleol allan yn y broses.

Dywed y Blaid fod gwybodaeth a ddaeth i law Mabon ap Gwynfor, eu llefarydd amaeth a materion gwledig, yn datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn prynu tir pori amaethyddol o’r radd flaenaf ar gyfer eu rhaglen plannu coed.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae’r Llywodraeth yn “gwthio newydd-ddyfodiaid allan, tra hefyd yn gwthio gwerth tir fferm i fyny”.

Mae e wedi tynnu sylw at achos un ffermwr ifanc, sy’n helpu ar fferm leol ac sy’n gobeithio prynu tir yn Tyn Mynydd ar Ynys Môn.

Fodd bynnag, canfu’n ddiweddarach fod y cais wedi cael ei guro gan Lywodraeth Cymru.

‘Amddifadu pobol o’u ffordd o fyw’

“Mae tir Cymru ar bremiwm ac mae angen defnyddio’r holl dir amaethyddol da i gynhyrchu bwyd. Serch hynny mae gennym brawf bod Llywodraeth Cymru wedi prynu nid yn unig un darn o dir, ond 380 erw o dir pori amaethyddol at ddibenion plannu coed yn unig,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae plannu coed yn rhan bwysig o’n cynlluniau i gyrraedd sero net carbon, ond rhaid iddi fod y goeden gywir yn y lle cywir am y rheswm cywir, ac nid defnyddio tir amaethyddol o’r radd flaenaf ar gyfer cynhyrchu pren yw’r rheswm cywir.

“Mae Ynys Môn yn adnabyddus drwy gydol hanes fel mam Cymru – Môn Mam Cymru – am ei bod yn bwydo Cymru, gyda thir da ar gyfer tyfu cnydau.

“Tan yn ddiweddar iawn, defnyddiwyd y tir hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i brynu ar gyfer plannu coed – fel rhan o’u Dathliadau Jiwbilî ‘Queen’s Canopy’ – ar gyfer tyfu haidd.

“Cyflenwad cyfyngedig o dir sydd ar gyfer tyfu cnydau yng Nghymru, ac felly mae clywed bod y Llywodraeth yn plannu coed ar dir amaethyddol o safon ac yn gwthio newydd-ddyfodiaid allan, tra hefyd yn gwthio gwerth tir fferm i fyny y tu hwnt i gyrraedd ffermwyr lleol, yn anamddiffynadwy.

“Mae camau eisoes wedi cael eu cymryd i roi’r hawl i bawb fyw yn y lle maen nhw’n ei alw’n gartref, ond mae amddifadu pobol o’u ffordd o fyw i yn mynd yn groes i’r graen.”

“Gwerth teg o’r farchnad”

“Cafodd y tir ei brynnu drwy ocsiwn lle roedd y cynigion wedi’i selio,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb.

“Wrth brynu tir, cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu harwain gan y gwerth a gafodd ei gymeradwyo gan y prisiwr cofrestredig.

“Er ein bod ni am i’r rhan fwyaf o’r gwaith plannu coed gael ei wneud gan dirfeddianwyr presennol, mae rôl i Cyfoeth Naturiol Cymru wrth brynu tir lle mae’n helpu i gyflawni blaenoriaethau strategol.

“Mae hyn yn golygu cyfran fechan iawn o dir yng Nghymru, a phan fydd yn digwydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwerth teg o’r farchnad.

“Mae eu ffocws ar barseli o dir (yn hytrach na ffermydd cyfan) a thir sydd gyfagos i Ystad Goed bresennol Llywodraeth Cymru.”