Mae Samuel Kurtz yn dweud ei fod yn awyddus i glywed “pa fath o gyfleoedd” y bydd Rishi Sunak a Liz Truss yn eu rhoi i bobol y Deyrnas Unedig cyn penderfynu dros bwy y bydd o’n pleidleisio.

Daw hyn wrth i’r ddau ymgeisydd sy’n weddill yn y ras i olynu Boris Johnson baratoi i gymryd rhan mewn hystingau yng Nghaerdydd ar Awst 3.

Wrth siarad â golwg360, mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am bolisïau economaidd y ddau ymgeisydd.

“Bydda i’n edrych am arweinydd sy’n mynd i gydweithio gyda ni’r Blaid Geidwadol yng Nghymru, cydweithio gyda Llywodraeth Bae Caerdydd, a gwella’r berthynas sydd gennym ni o ran y gwaith sydd angen ei gyflawni ar y cyd rhwng y ddwy lywodraeth,” meddai.

“Arweinydd sy’n gryf o ran y Deyrnas Unedig, a hefyd, hoffwn i weld unrhyw un o’r ymgeiswyr yn dod ma’s a darparu mwy o wybodaeth am eu polisïau economaidd, oherwydd mae’r ddau yn siarad am strategaeth economaidd wahanol.

“Fe welsom ni yn y ddadl oedd ar y teledu nos Lun (Gorffennaf 25) beth oedd Rishi Sunak yn feddwl am gynllun Liz Truss.

“Ond hoffwn i glywed mwy am beth mae Rishi yn bwriadu ei wneud o ran polisïau economaidd.

“Wrth gwrs mae o’n dweud nad nawr yw’r amser i dorri trethi ond yn y dyfodol, mae angen ychydig bach mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny.

“Hoffwn i hefyd glywed am ba fath o gyfleoedd y maen nhw eisiau rhoi i bobol ar draws ein gwlad ni.

“Y dywediad Saesneg ydi: ‘Talent is spread equally across the UK, opportunity isn’t’.

“Felly beth maen nhw’n mynd i’w ddatblygu a pha gyfleoedd maen nhw’n mynd i’w rhoi i bobol ifanc ac yn wir pobol o bob oedran i sicrhau bod dyfodol ganddyn nhw mewn swydd dda?

“Dyna hoffwn i glywed gan yr ymgeiswyr yr wythnos nesaf.”

‘Dim byd yn bod ar ddadlau am bolisïau’

Mae’r ymosodiadau rhwng yr ymgeiswyr wedi achosi gofid ymhlith rhengoedd y Ceidwadwyr fod y ras i olynu Boris Johnson yn gwneud niwed i’r blaid.

Roedd hyn yn amlwg yn y ddadl nos Lun (Gorffennaf 25), wrth i Rishi Sunak a Liz Truss wrthdaro ar drethi, Brexit, yr ysgolion yr aethon nhw iddyn nhw, a’u record yn y Llywodraeth.

Fodd bynnag, yn ôl Samuel Kurtz, “does dim byd yn bod ar ddadlau am bolisïau.”

“Beth sy’n fy mhoeni i fwyaf yw’r ffaith fod pobol sydd wedi cydweithio gyda’i gilydd mewn llywodraeth ac wedi cynrychioli’r wlad gyda’i gilydd yn San Steffan yn cwyno ar ei gilydd ar Twitter ac ati,” meddai.

“Ac fel y dywedodd Andrew RT Davies, mae angen iddyn nhw gau eu cegau.

“Dyw hynna ddim yn helpu dim byd.

“Ond ynglŷn â’r ddadl nos Lun, does dim byd yn bod ar ddadlau am bolisïau a dyna oedd y ddau yn ei wneud.

“A phan ddaeth hi at drafod sut fath o bobol oedden nhw, roedd y ddau yn ddigon caredig ac agored a dyna beth sy’n bwysig i mi.

“Dw i’n credu fod y ddau wedi mynd ma’s i wneud hyn yn y ffordd iawn, a dw i’n hoff o hynny.”