Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi addo £80,000 i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sy’n cael ei chynnal yn Llanymddyfri y flwyddyn nesaf.

Mae’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cyllideb o £100,000 i dalu am unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

Er bod Eisteddfod yr Urdd wedi ymweld â Sir Gâr saith gwaith eisoes, ac mai dyma’r wythfed tro, dyma’r tro cyntaf y bydd hi wedi’i chynnal yn Llanymddyfri, a hynny rhwng Mai 29 a Mehefin 3.

Mae’n denu oddeutu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn cyfrannu hyd at £6m i economi leol y sir sy’n ei chynnal, gyda’r diwydiant lletygarwch yn elwa’n benodol.

Mae disgwyl i fwy na 15,000 o blant a phobol ifanc o dan 25 oed gystadlu.

Gweithio mewn partneriaeth

“Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ôl i Sir Gâr yn 2023 ac i ddangos ein cefnogaeth drwy’r cyfraniad ariannol hwn o £80,000,” meddai Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg.

“Er mwyn sicrhau bod Eisteddfod 2023 yn ddigwyddiad llwyddiannus, mae’n bwysig ein bod ni, fel y sir sy’n ei chynnal, a’r Urdd yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod y profiad gorau posib yn cael ei roi i blant, pobol ifanc a thrigolion Sir Gâr.

“Bydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a bydd yn adlewyrchu’r ymrwymiad i gefnogi’r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym ni’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i groesawi Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr y flwyddyn nesaf ac rydym yn mawr obeithio y bydd pob ysgol yn Sir Gâr yn cymryd rhan, mewn rhyw ffordd.”