Bydd cefnogwyr timau criced Lloegr a De Affrica yn cael y cyfle i flasu cwrw casgen newydd sbon yn ystod y gêm ugain pelawd yng Ngerddi Sophia heno (nos Iau, Gorffennaf 27).

Bragdy Glamorgan Brewing Co yw partner cwrw casgen swyddogol Clwb Criced Morgannwg, ac maen nhw wedi bragu cwrw newydd sbon, 1888: Down the Gully, yn ecsgliwsif i’r clwb i ddathlu blwyddyn eu sefydlu.

Mae’r bragwyr yn addo blas ffrwythau trofannol a sitrws i gyd-fynd â rhai o’u cyrfau eraill sydd ar werth yn y stadiwm, gan gynnwys Jemima’s Pitchfork, Welsh Pale Ale a Chwrw Gorslas.

Mae’r cwrw hefyd yn cael ei werthu am £16.50 ar wefan y bragwyr.

Lloegr v De Affrica

Mae Lloegr ar y blaen o 1-0 yn y gyfres ugain pelawd, ar ôl buddugoliaeth o 41 rhediad ym Mryste neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 27).

Tarodd Jonny Bairstow 90 oddi ar 53 o belenni i osod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth, gan adeiladu partneriaeth o 106 gyda Moeen Ali.

Tarodd Lloegr 20 ergyd chwech – eu nifer fwyaf erioed mewn gêm ugain pelawd, tra bod Moeen Ali wedi taro’r hanner canred cyflymaf erioed i Loegr oddi ar 16 o belenni.

Wrth i Dde Affrica gwrso 235 i ennill, tarodd Tristan Stubbs, y batiwr 21 oed, 72 oddi ar 28 o belenni ond roedd ganddo fe ormod i’w wneud ar noson ddigon siomedig i’w gyd-chwaraewyr.

Bydd wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i Gaerdydd heno, wrth i David Miller arwain De Affrica ar y cae oedd yn gartref iddo am gyfnod byr yn 2017 – er na chwaraeodd e’r un gêm yng Nghymru ar ôl teithio milltiroedd o filltiroedd ar gyfer diweddglo’r Vitality Blast y tymor y cyrhaeddodd Morgannwg Ddiwrnod y Ffeinals.

Daeth ei berfformiad gorau yng nghrys Morgannwg pan darodd e hanner canred yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, ond siom gafodd Morgannwg yn y gystadleuaeth yn y pen draw, wrth iddyn nhw golli yn y rownd gyn-derfynol.