Roedd hi’n noson i’w hanghofio i Matthew Mott, prif hyfforddwr tîm criced undydd Lloegr a chyn-brif hyfforddwr Morgannwg, wrth i’r Saeson golli’r ail gêm ugain pelawd yn erbyn De Affrica o 58 o rediadau yng Nghaerdydd.

Tarodd Rilee Rossouw 96 heb fod allan a Reeza Hendricks 53, cyn i’r troellwr llaw chwith Tabraiz Shamsi a’r bowliwr cyflym Andile Phehlukwayo dair wiced yr un i gau pen y mwdwl ar gêm siomedig i Loegr.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y gyfres yn gyfartal, 1-1, gydag un gêm yn weddill.

Rilee Rossouw yn gosod y seiliau

Er gwaethaf dechrau cryf gan agorwyr De Affrica, Quinton de Kock a Reeza Hendricks, talodd penderfyniad Lloegr i fowlio ar ôl galw’n gywir ar ei ganfed bron ar unwaith.

Yn y bedwaredd pelawd, cafodd De Kock ei ddal gan Jason Roy wrth yrru ar ochr y goes oddi ar fowlio Moeen Ali ac erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd De Affrica’n 58 am un, gyda Rilee Rossouw wrth y llain wedi sgorio’i rediadau cyntaf yng Nghaerdydd y tymor hwn, yn dilyn batiad di-sgôr i Wlad yr Haf yn erbyn Morgannwg yn y Vitality Blast.

Roedden nhw’n 100 am un erbyn hanner ffordd trwy eu pelawdau, ar ôl i Rossouw oroesi gwaedd am ddaliad gan y wicedwr Jos Buttler oddi ar belen ola’r belawd gan Chris Jordan, gyda’r trydydd dyfarnwr – yn dilyn adolygiad gan Loegr – yn penderfynu bod y batiwr wedi taro’r bêl ond nad oedd y daliad yn lân yn isel wrth ei draed.

Cyrhaeddodd Hendricks ei hanner canred yn y belawd ganlynol, a hynny ar ôl taro tri phedwar a dau chwech oddi ar 29 o belenni, ond fe gafodd ei ddal yn gampus wedyn gan Jonny Bairstow yn safle’r goes fain bell, wrth i’r maeswr lwyddo i gadw ei gydbwysedd ar y ffin i roi wiced i Richard Gleeson.

Daeth hanner canred Rossouw oddi ar 32 o belenni, ac yntau wedi taro pum pedwar a thri chwech, wrth i fowlio a maesu llac Lloegr, ar wahân i ambell eithriad prin, barhau i achosi trafferthion yn ail hanner y batiad.

Daeth trydedd wiced Lloegr ar 143 pan gafodd Heinrich Klaasen ei ddal gan Dawid Malan ar ymyl y cylch cyfyngiadau maesu oddi ar fowlio Jordan, gyda’r wiced honno’n dod â’r batiwr cyffrous 21 oed, Tristan Stubbs, i’r llain ddiwrnod ar ôl iddo fe sgorio 72 yng ngêm agoriadol y gyfres ym Mryste.

Erbyn i’r batiad ddod i ben, roedd De Affrica’n 207 am dair, a Rossouw heb fod allan ar 96 oddi ar 55 o belenni, ar ôl taro deg pedwar a phum chwech.

Lloegr yn cwrso’n ofer

Dau o’r batwyr mwyaf dinistriol mewn gemau ugain pelawd rhyngwladol, Jos Buttler a Jason Roy, agorodd y batio i Loegr wrth iddyn nhw gwrso 208 i ennill.

Ar ôl clatsio cyfres o ergydion i’r ffin, gan gynnwys dau chwech enfawr i’r eisteddle, rhedodd lwc Buttler allan wrth iddo fe gael ei ddal gan Hendricks oddi ar fowlio Andile Phehlukwayo am 29 yn y bedwaredd pelawd, gan ddod â David Malan i’r llain.

Ond barodd hwnnw ddim yn hir, wrth i’r batiwr llaw chwith gael ei ddal gan y wicedwr De Kock oddi ar fowlio Keshav Maharaj wrth daro’r bêl yn syth i’r awyr, a’r Saeson yn 48 am ddwy wrth i Moeen Ali gamu i’r llain gyda’i dîm yn 53 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio, drwch blewyn yn unig y tu ôl i Dde Affrica.

Ond collodd Lloegr eu trydedd wiced pan wnaeth y troellwr llaw chwith Tabraiz Shamsi dwyllo Jason Roy a chanfod ymyl ucha’i fat i roi daliad digon syml i Reeza Hendricks ar yr ochr agored, a’r sgôr yn 77 yn y nawfed pelawd ac yna’n 87 am dair erbyn hanner ffordd drwy’r pelawdau – 13 rhediad y tu ôl i Dde Affrica ac wedi colli dwy wiced yn fwy.

Cafodd Moeen Ali ei ddal yn gelfydd ac yn rhagorol gan Maharaj, wrth redeg ar hyd y ffin oddi ar fowlio Shamsi, a Lloegr erbyn hynny’n 88 am bedair ar ddechrau’r unfed belawd ar ddeg, ac fe gyfunodd yr un chwaraewyr i gipio daliad symlach i waredu Sam Curran a gadael Lloegr mewn rhywfaint o drafferthion ar 92 am bump wrth i Liam Livingston gyrraedd y llain.

Cynigiodd Bairstow lygedyn o obaith gyda 30 cyflym, ond roedd gobeithion Lloegr yn sicr yn pylu’n gyflym pan gafodd ei ddal y tu ôl i’r sgwâr ar yr ochr agored gan Lungi Ngidi oddi ar fowlio Kagiso Rabada, a’r Saeson erbyn hynny’n 128 am chwech yng nghanol y bymthegfed pelawd.

Collodd y Saeson eu seithfed wiced yn y belawd ganlynol, pan gafodd Livingstone ei ddal gan De Kock oddi ar fowlio Phehlukwayo am 18, a’r sgôr yn 141, a’u hwythfed wiced pan gafodd Adil Rashid ei fowlio gan Phehlukwayo am dri a’r sgôr yn 148.

Roedden nhw’n  148 am naw pan gafodd Chris Jordan ei ddal gan De Kock oddi ar fowlio Ngidi am bump yn yr ail belawd ar bymtheg, a daeth y gêm i ben pan gafodd Richard Gleeson ei ddal gan De Kock oddi ar fowlio Ngidi.

Bydd canlyniad y gyfres yn cael ei benderfynu yn Southampton ddydd Sul (Gorffennaf 31).

Sgorfwrdd:

https://www.espncricinfo.com/series/south-africa-in-england-2022-1276896/england-vs-south-africa-2nd-t20i-1276914/live-cricket-score

1888 Down the Gully

Cwrw Cymreig newydd yn croesawu cefnogwyr Lloegr a De Affrica i Gaerdydd

Bydd gêm griced ugain pelawd rhwng y ddwy wlad yn cael ei chynnal yng Ngerddi Sophia heno (nos Iau, Gorffennaf 28)