Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi na fydd y chwaraewyr yn ‘cymryd y ben-glin’ y tymor hwn, ond maen nhw’n mynnu nad yw’n arwydd eu bod nhw’n credu bod dileu hiliaeth yn llai pwysig nag yr oedd e.
Daw’r datganiad ar ran y rheolwr Russell Martin a’i dîm ar drothwy gêm gynta’r tymor oddi cartref yn Rotherham ddydd Sadwrn (Gorffennaf 30).
Fe ddechreuodd y weithred o ‘gymryd y ben-glin’ wrth ymateb i farwolaeth George Floyd, dyn du yn America, dan law’r heddlu pan ailddechreuodd gemau pêl-droed fis Mehefin 2020 yn dilyn y pandemig Covid-19.
“Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi’i wneud ar chwarae bach, ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu nad ydym yn credu gymaint fod gwahaniaethu o unrhyw natur yn ffiaidd ac nad oes lle iddo yn y gymdeithas,” meddai’r Elyrch mewn datganiad.
“Rydym yn aros yn gadarn yn ein cefnogaeth i’r hyn mae cymryd y ben-glin yn sefyll drosto ac yn ei gynrychioli.
“Heb amheuaeth, mae cymryd y ben-glin wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ac wedi annog sgyrsiau ynghylch sut i ddileu hiliaeth o’r gêm rydym i gyd yn ei charu.”
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n sefyll i gymeradwyo unrhyw dîm sy’n dymuno gwneud y weithred y tymor hwn mewn gemau yn eu herbyn.
‘Cyfrifoldeb’ a ‘ffyrdd amgen o ddangos cefnogaeth’
Yn ôl y clwb, byddan nhw’n dod o hyd i ffyrdd amgen o ddangos eu cefnogaeth i ddileu hiliaeth, a bod “angen i hynny fynd yn ddyfnach na chymryd y ben-glin bob tro rydym yn chwarae”.
“Rydyn ni eisiau gyrru newid positif, sylweddol,” meddai’r datganiad.
“Fel clwb, mae Abertawe wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a byddwn yn ceisio parhau i weithio ochr yn ochr â Sefydliad Clwb Pêl-droed Abertawe, sy’n gwneud cynifer o bethau da wrth hyrwyddo’r neges fod pêl-droed, a chwaraeon yn gyffredinol, i bawb.”
Mae’r datganiad hefyd yn cyfeirio at y digwyddiadau niferus dros y blynyddoedd diwethaf pan gafodd eu chwaraewyr eu sarhau’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithas, a’r rheiny’n chwaraewyr du ac o dras Asiaidd ac maen nhw’n dweud bod y digwyddiadau hynny’n “ffiaidd”.
Arweiniodd y digwyddiadau hynny at foicot o’r cyfryngau cymdeithasol gan y clwb am gyfnod byr fis Ebrill y llynedd ac mae’r clwb yn dweud nad ydyn nhw “wedi anghofio” hynny.
Ond maen nhw’n dweud bod angen “newid sylweddol” a bod angen “cefnogaeth yr awdurdodau perthnasol, cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a chyrff llywodraethu i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus a chymdeithas fwy hafal ac empathetig”.
“Teulu ydym ni, a byddwn ni bob amser yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â’n gilydd, boed hynny ar y cae neu’n helpu i frwydro yn erbyn anghyfiawnder a chodi ymwybyddiaeth oddi arno.”
Joe Allen allan, ond Ben Cabango yn holliach
Yn y cyfamser, mae Russell Martin wedi cadarnhau na fydd Joe Allen yn y garfan ar gyfer y daith i Rotherham, ond fod Ben Cabango yn holliach ac ar gael i chwarae.
Mae Allen yn parhau i wella o anaf i linyn y gâr, ar ôl cael ei anafu yn chwarae i Gymru fis diwethaf ac er ei fod e’n agos at ddychwelyd, mae’r penwythnos hwn yn ymddangos ychydig yn rhy gynnar.
Ond bydd Cabango yn y garfan ar ôl chwarae i’r tîm dan 21 yr wythnos ddiwethaf.
Mae Liam Walsh allan am gyfnod hir ag anaf i’w goes, ond bydd y chwaraewyr newydd – Harry Darling, Nathan Wood a Matty Sorinola – i gyd ar gael.