Mae adroddiadau’n awgrymu bod Joe Rodon, amddiffynnwr Cymru, wedi cytuno i ymuno â Rennes o Spurs.

Yn ôl y newyddiadurwr pêl-droed Fabrizio Romano, bydd Rodon yn ymuno â’r clwb Ffrengig ar fenthyg am dymor, gydag opsiwn i’w brynu’n barhaol am €20m.

Y gred yw bod y ddau glwb, yn ogystal â’r chwaraewr, yn gweithio ar fanylion olaf y trosglwyddiad.

Mae’r Cymro wedi ei chael hi’n anodd cael munudau cyson i dîm Spurs ers iddo symud o Abertawe yn 2020, felly bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan gefnogwyr Cymru wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd ym mis Tachwedd.