Ymhlith rhai o obeithion gorau Cymru am fedal yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham eleni mae efeilliaid o Grymych – y ddau baffiwr, Ioan a Garan Croft.

Mae’r brodyr sydd yn 21 mlwydd oed wedi cynrychioli Cymru a Phrydain dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ennill medalau arian ym Mhencampwriaethau Paffio Ewrop dan 22 yn Croatia fis Mawrth.

Cafodd y brodyr lwyddiant hefyd ym Mhencampwriaethau Amatur Ewrop yn Armenia fis Mai, wrth iddyn nhw ymladd ar lefel y dynion am y tro cyntaf.

Daeth Ioan, oedd yn ymladd yn y dosbarth pwysau welter, adref gyda’r fedal efydd, tra bod Garan wedi ennill y fedal arian yn y dosbarthiad canol-ysgafn, gan golli allan i Harris Akbar o Loegr yn y rownd derfynol.

Ar ôl i’r ddau gychwyn yn y gamp yng Nghlwb Bocsio Amatur Aberteifi yn wyth oed, cafodd y penderfyniad ei wneud i’r ddau ymladd mewn dosbarthiadau pwysau gwahanol – er mwyn osgoi wynebu ei gilydd.

Mae’r efeilliaid wedi ymddangos mewn ffilm arbennig ar S4C, Birmingham 2022: Cymry’r Gemau, sy’n cynnwys pump o athletwyr gorau Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Yn ogystal â’r efeilliaid Croft, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y taflwr disgen Aled Siôn Davies, y triathletwr Non Stanford, a chapten tîm Cymru, y bowliwr lawnt Anwen Butten.

Ymateb y brodyr

“Dwi yn gyfforddus yn light middleweight, ond mae’n dda i Garan i focsio yn y pwysau yna,” meddai Ioan Croft.

“I fod yn deg, fyddwn i probably yn bocsio yn light middleweight os bydda dim efaill ‘da fi!” meddai ei frawd Garan.

“Achos y pwysau gwahanol, fyddwn ni byth yn dod ar draws ein gilydd yn y ring bocsio.

“Ac mae’n galluogi’r ddau ohonom ni i fynd i Gemau’r Gymanwlad.”

“Rydyn ni’n gwneud popeth gyda’n gilydd,” meddai Ioan wedyn. “Ymarfer, teithio, byw, bwyta.

“Yr unig beth ni heb wneud yw bocsio’n gystadleuol yn erbyn ein gilydd.

“Mae hynny’n un peth fydd byth yn digwydd achos fydd mam yn siŵr o byth siarad ‘da ni eto.”

Y tîm

Mae naw aelod yn nhîm paffio Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad eleni, sydd yn cael eu harwain gan yr hyfforddwyr, Colin Jones, Zack Davies, a Connor Gething.

“Oeddwn i’n hyfforddi Ioan a Garan o’r off, oedden nhw’n juniors yn y squad pryd hynny fi’n credu, babis bach,” meddai Zack Davies.

“Maen nhw dipyn bach yn sbesial, mae ‘da nhw rhywbeth, ma da nhw’r drive a’r determination.

“Maen nhw’n gwybod beth maen nhw moyn ac maen nhw’n rhoi’r gwaith i mewn.

“Maen nhw wedi cael profiadau, dod lan drwy’r youth a junior level, maen nhw’n seniors nawr ac rwy’n browd o weld beth maen nhw’n gwneud a gweld nhw’n gwneud yn dda.

“Maen nhw’n fois neis ac yn humble iawn.”

Cafodd tîm Cymru gemau llwyddiannus dros ben yn yr Arfordir Aur yn 2018, gyda Lauren Price a Sammy Lee yn ennill medalau aur, Rosie Eccles yn hawlio’r arian a Mickey McDonagh yn ennill medal efydd.

Gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn nhabl medalau’r paffio yn sgil y llwyddiant, tu ôl i Loegr, India ac Awstralia.

Hen Wlad Fy Nhadau

Ac mae’r efeilliaid yn hyderus o efelychu’r llwyddiant yma yng Nghanolfan yr NEC dros y bythefnos nesaf.

“Bydd clywed yr anthem yn Birmingham yn anhygoel,” meddai Ioan Croft.

“Fi’n cofio gwylio Gemau’r Gymanwlad yn y Gold Coast a phedair mlynedd lawr y lein, dyma ni nawr, ac mae gyda ni siawns i ddangos i bawb beth ni’n gallu gwneud.

“Mae’r ddau ohonom ni’n ddigon da i ennill yn y gemau, dw i’n meddwl.”

“Mae rhywbeth tu mewn i ni sydd eisiau llwyddo,” meddai Garan.

“Mae meddwl am fynd gartre’ heb medal neu heb ennill, heb dim byd, yn teimlo fel gwastraff amser ac mae hynny’n gwthio chi ymlaen i wneud yn dda.”

Gwyliwch Birmingham 2022: Cymry’r Gemau ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.