Bydd tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru’n gobeithio curo Morgannwg am yr ail dymor yn olynol, wrth iddyn nhw herio’i gilydd mewn gêm 50 pelawd am 11 o’r gloch ddydd Sul (Gorffennaf 31).

Roedd Cymru’n fuddugol o dair wiced y tymor diwethaf, cyn i Forgannwg fynd yn eu blaenau i godi Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd.

Ymhlith rhengoedd Cymru mae Connor Brown, cyn-fatiwr Morgannwg sydd bellach yn chwarae i Glwb Criced Lansdown yng ngorllewin Lloegr.

Brown oedd y prif sgoriwr yn yr ornest i Gymru, gyda 67.

Enillodd Cymru gyda dwy belen yn weddill, gyda Lukas Carey yn perfformio gyda’r bat a’r bêl, a Tom Cullen yn brif sgoriwr Morgannwg gyda 41.

Cyn hynny, roedd Morgannwg wedi bod yn fuddugol yn y pedair gêm rhwng y ddau dîm.

Yn 1997, adeiladodd Steve James a Hugh Morris, agorwyr Morgannwg, bartneriaeth o 147, gyda James yn sgorio 90, y sgôr unigol gorau erioed i Forgannwg yn erbyn Cymru.

Tîm Cymru

Mae Cymru wedi enwi eu carfan 13 dyn ar gyfer y gêm.

Mae sawl newid i’r tîm oedd yn fuddugol y tymor diwethaf, gan na fydd Oskar Kolk, Greg Holmes, Steve Reingold na Lukas Carey yn chwarae eleni.

Dydy Kolk na Holmes ddim wedi chwarae y tymor hwn, ond mae Carey a Reingold wedi colli eu llefydd yn ddiweddar.

Mae Connor Brown wedi bod yn perfformio’n dda yn ddiweddar, gydag 87 yn y gêm bencampwriaeth yn erbyn Wiltshire yr wythnos hon.

Hefyd yn y garfan mae Richard Edwards, chwaraewr 27 oed o Bort Talbot oedd wedi cipio tair wiced y llynedd, gan gynnwys Hamish Rutherford, batiwr rhyngwladol Seland Newydd.

Er ei fod e bellach yng ngharfan Morgannwg ac yn gobeithio chwarae yng Nghwpan Royal London, bydd Tom Bevan, batiwr 22 oed Sain Ffagan, hefyd yng ngharfan Cymru, yn dilyn pedwar canred i ail dîm y sir.

Ymhlith y chwaraewyr Morgannwg yng ngharfan Cymru mae’r wicedwr Alex Horton o Drecelyn, a hynny yn absenoldeb Cameron Herring, y chwaraewr amryddawn Andy Gorvin sydd wedi torri trwodd i dîm Morgannwg mewn gemau undydd, a’r troellwr a Chymro Cymraeg Tegid Phillips o Gaerdydd.

Capten Cymru yw Brad Wadlan, a hynny yn absenoldeb Sam Pearce, un arall sydd wedi bod yng ngharfan Morgannwg.

Mae Wadlan bron â chyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau i Abertawe eleni, ac fe gipiodd e 12 wiced am 71 mewn gêm yng nghrys Cymru fis diwethaf.

Ymhlith yr enwau eraill i gadw llygad arnyn nhw mae Ben Morris, Morgan Bevans a Ben Kellaway, sydd i gyd yn cael eu hystyried yn sêr ifainc, yn ogystal â Sam Jardine.

Ond does dim lle i Lorenzo Machado, Harry Friend na Jason Foulkes, ac mae Kieran Bull a Greg Smith allan hefyd.

Mae Callum Nicholls a Will Moore hefyd yn y garfan.

Carfan Cymru: TR Bevan (Sain Ffagan), AJ Horton (Casnewydd/Trecelyn), CR Brown (Lansdown), BL Wadlan (Abertawe, capten), MJ Bevans (Casnewydd), BI Kellaway (Cas-gwent), AW Gorvin (Sain Ffagan), TD Phillips (Caerdydd), SJ Jardine (Castell-nedd), RD Edwards (Castell-nedd), BJ Morris (Y Fenni), CR Nicholls (Sain Ffagan), WS Moore (Crwydriaid Caerfyrddin)

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), C Cooke, J Cooke, D Douthwaite, C Ingram, D Lloyd, J McIlroy, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, T van der Gugten, J Weighell