Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi condemnio ymddygiad nifer o gefnogwyr yn ystod eu gêm oddi cartref yn Rotherham ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 30).

Gorffennodd gêm gynta’r tymor yn gyfartal 1-1 yn y Bencampwriaeth.

Er bod Abertawe’n dweud bod y gêm wedi’i chwarae mewn “awyrgylch gwych”, maen nhw’n dweud bod “ymddygiad annerbyniol, di-chwaeth” ar y chwiban olaf yn Stadiwm AESSEAL New York.

Daw’r ymddygiad er gwaetha’r ffaith fod yr Elyrch wedi ymrwymo i ymgyrchoedd i ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r gêm.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw a Rotherham yn cydweithio â Heddlu De Swydd Efrog a Heddlu De Cymru i adnabod y rhai oedd yn gyfrifol, ac yn diolch i weddill y cefnogwyr oedd wedi ymddwyn yn briodol.