Enillodd tîm Cymru chwech o fedalau – gan gynnwys eu medal aur gyntaf – ar drydydd diwrnod Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham.

Cipiodd y para-seiclwr James Ball fedal aur gynta’i wlad, a hynny yn rownd derfynol deuawdau’r ras wib B gyda’i beilot Matt Rotherham, ac ar ôl iddo fe ennill y fedal arian ar y diwrnod cyntaf yn y deuawdau B 1,000m yn erbyn y cloc.

Roedd medal efydd yr un hefyd i’r seiclwyr Eluned King (pwyntiau) a William Roberts (ras safonol).

Roedd arian hefyd i’r tîm triathlon cymysg, a medalau efydd i Lily Rice a Medi Harris yn y pwll nofio.

Mae Cymru bellach wedi ennill naw o fedalau ers dechrau’r Gemau.