Mae gŵyl para-chwaraeon aml-chwaraeon yn cael ei chynnal yn Abertawe drwy gydol yr wythnos hon (Awst 1-7) er mwyn “ysbrydoli, swyno a diddanu Bae Abertawe”.

Bydd pobol o bob oed a gallu yn gallu rhoi cynnig ar fwy nag ugain o gampau gwahanol ar Gampws Prifysgol Abertawe ym Mharc Singleton drwy gydol yr wythnos – o athletau i boccia, bowls, criced, golff, karate, rhwyfo, rygbi, saethu targed, tenis, rygbi cadair olwyn a llawer mwy.

Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac mae’r trefnwyr yn dweud eu bod nhw’n cynnig “cyfle i ddarganfod hoff chwaraeon newydd neu ddoniau cudd, dod i wybod am glybiau insport lleol a bod yn actif mewn amgylchedd diogel, croesawgar, cynhwysol, sy’n agored i bobol anabl a phobol hab anabledd pump oed a hŷn.

Byddan nhw’n hybu manteision corfforol a meddyliol gwneud chwaraeon, gan bwysleisio sut y gall newid bywydau pobol.

Beth Munro

Beth Munro
Beth Munro

Ar ddiwrnod cynta’r ŵyl, mae’r trefnwyr yn tynnu sylw at hanes Beth Munro.

Dechreuodd ei gyrfa hi mewn digwyddiad tebyg i’r ŵyl hon yn y gogledd, gan roi cynnig ar taekwondo am y tro cyntaf, gan ennill y fedal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo ddeunaw mis yn ddiweddarach.

“Rydw i’n falch iawn o gefnogi’r Ŵyl Para Chwaraeon fel model rôl,” meddai.

“Rydw i eisiau i bobol ifanc gredu bod ganddyn nhw’r gallu, nid yr anabledd, i wneud yn dda yn y chwaraeon yma.

“Mae angen i unrhyw unigolyn anabl achub ar y cyfle a meddwl bod breuddwydion yn bosibl, oherwydd rydw i’n brawf byw eu bod nhw.”

Ac er mai hwyl, mwynhad a phrofi gwahanol chwaraeon am y tro cyntaf yw prif nod y diwrnod cyntaf heddiw, bydd yr hyfforddwyr gorau o Chwaraeon Anabledd Cymru ac amrywiol Gyrff Rheoli Cenedlaethol wrth law i roi cyngor – yn ogystal â sgowtio ar gyfer y talentau i ennill y medalau Paralympaidd nesaf.

Mae’r cyfan am ddim, a bydd y rhai sy’n cymryd rhan ac yn rhoi cynnig arni yn derbyn bag nwyddau gan bartneriaid cyfres insport SPAR.

Gweddill yr wythnos

Heddiw (dydd Llun, Awst 1) yw diwrnod cyntaf wythnos gyfan o ddigwyddiadau chwaraeon ar draws dinas a sir Abertawe.

“Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i Tom Rogers a phawb yn Chwaraeon Anabledd Cymru am roi’r cyfle i Rygbi Byddar Cymru arddangos ein carfanau yn yr Ŵyl Para Chwaraeon,” meddai James Savastano, rheolwr tîm Rygbi Byddar Cymru.

Tîm rygbi cadair olwyn y Gweilch
Tîm rygbi cadair olwyn y Gweilch

“Rydw i’n bwyta, cysgu ac anadlu rygbi cadair olwyn,” meddai Kyran Bishop, Chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn y Flwyddyn, sy’n chwarae gyda’r Gweilch.

“Mae wedi newid fy mywyd i mewn cymaint o ffyrdd ac mae gen i freuddwydion am fod yn Baralympiad un diwrnod.”

Un sy’n anelu i ennill medal yng Ngemau Paralympaidd Paris yn 2024 yw’r rhwyfwr Ben Pritchard o’r Mwmbwls.

“’Allwch chi ddim diystyru sut gall chwaraeon newid bywyd rhywun, felly fe hoffwn i wahodd pawb i ddod draw i’r Ŵyl Para Chwaraeon a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon,” meddai.

‘Amserlen anhygoel o bara-chwaraeon’

“Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau Cymryd Rhan a digwyddiadau Gwylio, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o lunio amserlen anhygoel o bara-chwaraeon i’w mwynhau ar draws Abertawe,” meddai Tom Rogers, Rheolwr Partneriaethau yn Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Gan weithio gyda nifer o bartneriaid hanfodol, bydd cyfleoedd i gymryd rhan, gwylio, a gwirfoddoli ar lawr gwlad i lefel para chwaraeon elitaidd ar gael yn ystod yr wythnos.

“Mae gweithgarwch corfforol, gan gynnwys chwaraeon, yn cael effaith gadarnhaol ar ein holl gymunedau ni ac mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli i bawb gael mynediad at y buddion hyn. Ar draws yr Ŵyl Para Chwaraeon rydym yn gobeithio y gall pawb ddod o hyd i rywbeth ar eu cyfer a mwynhau amserlen anhygoel o bara chwaraeon.

“Diolch i’r holl bartneriaid, o Lywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Abertawe, SPAR, Shockwave Digital a nifer fawr o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru a Phrydain, sydd i gyd wedi gweithio gyda’i gilydd i greu wythnos brysur o weithgareddau o safon uchel fel rhan o gyfres insport a digwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws y ddinas.”

Amserlen yr wythnos

Dydd Llun, Awst 1

Cyfres insport Prifysgol Abertawe (Campws Singleton)

Mwy nag 20 o wahanol chwaraeon i roi cynnig arnynt, yn cael eu darparu gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol – gan gynnwys: athletau, boccia, bowls, criced, golff, carate, rhwyfo, rygbi, saethu targed, tennis, rygbi cadair olwyn a llawer mwy.

 

Dydd Mawrth, Awst 2

Cyfres insport: Nofio, Beicio, Rhedeg, Canolfan Hamdden Penlan

Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Aer a Phistol Aer (Diwrnod 1), Canolfan Tennis Abertawe

 

Dydd Mercher, Awst 3

Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Aer a Phistol Aer (Diwrnod 2), Canolfan Tennis Abertawe

 

Dydd Iau, Awst 4

Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Bôr Bychan 50m, cystadleuaeth prôn, Clwb Reiffl Abertawe

 

Dydd Gwener, Awst 5

Rygbi Saith Bob Ochr Byddar: Cymru v Gwledydd Cartref, Cae Rygbi a Chriced Sain Helen, Abertawe

 

Dydd Sadwrn, Awst 6

Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru, Prif Neuadd, LC Abertawe

Aquathlon GO TRI Anabledd Abertawe

Uwch Gyfres Paratri Triathlon Prydain 2022 Abertawe

Cyfres Para Triathlon y Byd Volvo 2022 Abertawe, Glannau SA1

 

Dydd Sul, Awst 7

Para Rwyfo Dan Do Agored Cymru, Prif Neuadd, LC Abertawe

IRONMAN 70.3 Abertawe