Mae ymgyrch 50 pelawd tîm criced Morgannwg yn dechrau heddiw (dydd Mawrth, Awst 2), wrth iddyn nhw deithio i Derby ar ddechrau Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd y gwnaethon nhw ei hennill y tymor diwethaf.

Fe wnaethon nhw guro Siroedd Cenedlaethol Cymru mewn gêm baratoadol dros y penwythnos, wrth i Colin Ingram daro 110 oddi ar 77 o belenni, gyda David Lloyd a Billy Root yn taro hanner canred yr un.

Yn dilyn perfformiadau clodwiw yn y gemau pedwar diwrnod a’r Vitality Blast, a record o fatiad yn y Bencampwriaeth (410 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerlŷr), mae disgwyl i Sam Northeast chwarae yn ei gêm 50 pelawd gyntaf i’r sir.

Gallai’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy a’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya chwarae yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Royal London.

Mae Tom Bevan wedi’i gynnwys hefyd ar ôl taro 80 oddi ar 61 o belenni i Gymru yn erbyn Morgannwg, ac fe allai yntau hefyd chwarae yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf.

Gemau’r gorffennol

Doedd dim modd cynnal y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Derby yn y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf yn sgil y glaw.

Dydyn nhw ddim wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ers 13 o flynyddoedd mewn gemau undydd Rhestr A, ond enillon nhw dair gêm yr un rhwng 2003 a 2009.

Yn 2009, enillodd Morgannwg o bum wiced wrth gwrso 215 mewn 40 pelawd, wrth i Tom Maynard sgorio 69 heb fod allan a Jim Allenby 60.

Roedden nhw’n fuddugol o bum wiced yn gynharach yn y tymor hwnnw yn dilyn partneriaeth o 135 mewn 28 pelawd rhwng Jamie Dalrymple a Ben Wright wrth iddyn nhw ennill gydag 16 o belenni’n weddill.

Mae Morgannwg wedi herio Swydd Derby 48 o weithiau, gan ennill 16 o weithiau a cholli 28.

Viv Richards sydd â’r record am y sgôr gorau yn erbyn y sir i Forgannwg mewn gemau Rhestr A – 109 heb fod allan ar Barc Ynys Angharad ym Mhontypridd yn 1992.

Neges i’r cefnogwyr

Ar drothwy’r gystadleuaeth, mae David Harrison, yr is-hyfforddwr, wedi apelio ar gefnogwyr i gefnogi Morgannwg yn ystod y gystadleuaeth.

Daw’r ymgyrch yr un pryd â’r Can Pelen, cystadleuaeth gymharol newydd fydd yn hawlio’r sylw dros yr wythnosau nesaf.

Mae David Harrison wrth y llyw yn absenoldeb tîm hyfforddi Morgannwg sydd yng ngofal tîm y Tân Cymreig.

“Fy neges i’r cyhoedd yng Nghymru yw peidiwch â’n hanghofio ni,” meddai.

“Mae gyda ni gystadleuaeth i’w chwarae a bydd hi’n braf cael chwarae dwy gêm yng Nghastell-nedd, cae newydd i lawer o’r bois, dwy gêm yng Ngerddi Sophia felly dewch i’n cefnogi ni.

“Gwnaethon ni’n dda y llynedd a byddai’n braf cael cynifer o bobol â phosib drwy’r gât.”

Carfan Swydd Derby: B Godleman (capten), T Wood, H Came, L Reece, B Guest, M McKiernan, Anuj Dal, M Watt, S Conners, B Aitchison, N Potts, M Wagstaff, A Harrison

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, C Cooke, J Cooke, D Douthwaite, C Ingram, D Lloyd, J McIlroy, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, T van der Gugten, J Weighell