Mae Aaron Ramsey wedi ymuno â chlwb Nice yn Ffrainc.
Daw hyn ar ôl i’r chwaraewr canol cae adael Juventus yn yr Eidal.
Fe ddaw ychydig fisoedd cyn i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar, ar ôl cymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.
Yn 31 oed, fe wnaeth Ramsey serennu yn Arsenal, gan chwarae 371 o weithiau a sgorio 65 o goliau rhwng 2008 a 2019, gan ennill Cwpan FA Lloegr dair gwaith hefyd.
Ymunodd e â Juventus yn yr Eidal yn 2019, gan chwarae mewn 69 o gemau cyn symud ar fenthyg i Rangers yn yr Alban yn ystod hanner cynta’r flwyddyn eleni, gan chwarae yn rownd derfynol Cynghrair Europa ac ennill Cwpan yr Alban.
Mae e wedi ennill 74 o gapiau dros Gymru, gan chwarae yn yr Ewros ddwywaith (Ewro 2016 a 2020), a chael ei enwi’n un o sêr Ewro 2016 wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
“Croeso i dy gartref newydd,” meddai Clwb Pêl-droed Nice wrth groesawu’r Cymro i’r clwb.