Mae parau dynion Cymru wedi curo Lloegr yn rownd derfynol y bowls yng Ngemau’r Gymanwlad i gipio’r fedal aur.

Fe wnaeth Daniel Salmon a Jarrad Breen drechu Jamie Walker a Sam Tolchard o 19-18.

Roedd gan Gymru gryn flaenoriaeth – 10-4 a 15-6 – cyn i’r Saeson unioni’r sgôr, 16-16 i sicrhau diweddglo cyffrous i’r ornest ar y lawnt.

Methodd Tolchard â’i dafliad olaf i sicrhau bod Cymru’n amddiffyn y teitl enillon nhw ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018, gyda Salmon hefyd yn aelod o’r tîm hwnnw.

Mae’r fedal aur yn golygu bod gan Gymru ddwy hyd yn hyn, yn dilyn llwyddiant y para-seiclwr James Ball, ac mae ganddyn nhw ddwy fedal arian a saith efydd hefyd.