Wnaeth Joe Rodon ddim oedi cyn ymuno â Chlwb Pêl-droed Rennes, yn ôl Florian Maurice, un o gyfarwyddwyr y clwb, meddai adroddiadau’r wasg yn Ffrainc.
Mae’r Cymro, sy’n chwarae yng nghanol yr amddiffyn, wedi ymuno ar fenthyg am dymor ar ôl cyfnod rhwystredig yng ngogledd Llundain gyda Spurs, ac ar drothwy ymgyrch Cwpan y Byd Cymru yn Qatar yn ddiweddarach eleni.
Symudodd e o Abertawe am £11m yn 2020, ond dim ond 24 o weithiau mae e wedi chwarae i’r clwb yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae’n debyg fod gan Rennes, sy’n chwarae yn Llydaw, opsiwn i brynu’r Cymro ar ddiwedd ei gyfnod ar fenthyg.
Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn pledio achos Rodon, gan ddweud bod angen iddo fod yn chwarae’n rheolaidd i’w glwb, mae rheolwr Cymru Rob Page a’r capten Gareth Bale, un arall sydd wedi chwarae i Spurs.