Cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten bedair wiced am 41 wrth i Forgannwg ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Royal London gyda buddugoliaeth o wyth wiced dros Swydd Derby yn Derby.

Mae’r sir Gymreig yn ceisio amddiffyn eu teitl yn y gystadleuaeth 50 pelawd eleni, ac fe gawson nhw ddechrau perffaith gyda buddugoliaeth mewn gêm a gafodd ei chwtogi oherwydd y glaw.

Ar ôl bowlio’n gyntaf, fe wnaeth Morgannwg fowlio’r Saeson allan am 110, cyn i’r capten Kiran Carlson daro 54 heb fod allan i arwain ei dîm i fuddugoliaeth swmpus.

Doedd hi ddim yn hir cyn i van der Gugten gipio wiced, wrth waredu’r capten Billy Godleman, cyn i Luis Reece gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Jamie McIlroy.

Roedden nhw’n chwech am dair o fewn dim o dro wrth i van der Gugten daro coes Harry Came o flaen y wiced yn y belawd ganlynol.

Roedden nhw’n 29 am bedair wrth i Cooke gipio chwip o ddaliad i waredu Tom Wood, cyn i’r chwaraewyr orfod gadael y cae oherwydd y glaw.

Roedd yr ornest bellach yn 47 pelawd yr un, a bu’n rhaid i Chris Cooke adael y cae ag anaf i’w goes yn fuan wedyn hefyd.

Collodd Swydd Derby weddill eu wicedi’n gyflym, ond llwyddon nhw i fynd y tu hwnt i’w sgôr isaf erioed yn erbyn Morgannwg – 96 yng Nglyn Ebwy yn 1969.

Bu’n rhaid i’r chwaraewyr adael y cae unwaith eto cyn i Swydd Derby gael eu bowlio allan am 110.

Cwrso

Gan ddefnyddio Dull DLS, nod o 110 ac nid 111 oedd gan Forgannwg i ennill.

Collodd David Lloyd ei wiced wrth yrru ar yr ochr agored a chael ei ddal y tu ôl i’r sgwâr ar yr ochr agored, a chafodd Sam Northeast ei ddal yn y slip i adael Morgannwg yn 28 am ddwy.

Ond adeiladodd Colin Ingram a Kiran Carlson bartneriaeth swmpus i sicrhau’r fuddugoliaeth yn yr ail belawd ar hugain.

“Allwn i ddim bod wedi gofyn am lawer mwy, mewn gwirionedd,” meddai Carlson.

“Roedd y ffordd wnaethon ni fowlio ar y dechrau’n rhagorol.

“Wnaethon ni ddim wir roi gormod iddyn nhw, fe wnaethon ni gymryd ein cyfleoedd ac fe wnaeth y bois mawr ar y brig, Jamie a Timm osod eu stondin.

“Roedd y llain yn anodd, roedd ychydig mwy ynddi nag yr oedd y ddau dîm wedi meddwl, ond fe wnaethon ni fowlio’n gyntaf jyst oherwydd yr amodau uwch ein pennau.

“Roedd hi’n symud dipyn ac yn gwyro, ac roedd hi’n anodd iawn ar y dechrau pan oedd hi’n gwneud tipyn.

“Aeth hi dipyn bach yn wastad wrth i’r bêl heneiddio, ond pan oedden ni wedi’u cael nhw’n chwech am dair, mae’n rhaid ei bod hi’n anodd iddyn nhw oherwydd roedden ni’n bowlio cystal.”