Bydd Elfyn Evans yn dychwelyd i un o’i hoff ralis ddydd Iau yma (4 Awst) wrth i gylchdaith Pencampwriaeth Rali’r Byd gyrraedd cartref ysbrydol y gamp – Rali’r Ffindir.
Wedi saith rali o’r tymor, mae Kalle Rovanperä, sy’n gyrru i dîm Toyota Gazoo Racing gydag Elfyn, yn edrych yn gyfforddus iawn ar frig tabl y gyrwyr.
Mae gan Kalle fantais o 83 pwynt dros Thierry Neuville yn yr ail safle a 96 pwynt dros Elfyn sydd yn drydydd.
Er bod gobeithion y gŵr o Ddolgellau o ennill y bencampwriaeth ar ben eleni mwy na heb, mae Elfyn Evans yn benderfynol o amddiffyn ei goron ar ôl ennill yn y Ffindir y llynedd.
“Y Ffindir yw un fy hoff ralis y tymor, os nad fy ffefryn, ac mi ydw i’n edrych ymlaen ato’n arw. Mae’r teimlad o yrru car yn y Ffindir yn unigryw ac mae o’n un o’r uchafbwyntiau pob blwyddyn, ac mi oedd ennill yno llynedd yn deimlad arbennig iawn.
“Eleni, mi fydd yr her yn un newydd gyda’r ceir newydd yma ac mae hwn yn rali ble ti angen cael hyder yn dy gar. Roedd Rali Estonia yn gam positif ymlaen i ni ac mi fyddwn ni’n gweithio’n galed yn y profion cyn y digwyddiad er mwyn ceisio ail-greu’r teimlad cawson ni ar lonydd y Ffindir blwyddyn diwethaf.”
Mi fydd rhaglen Ralïo ar S4C y dilyn y rali drwy’r penwythnos, gyda fodlediadau ar gyfrifon YouTube Ralïo a darllediad ar-lein byw o’r cymal cyffro fore dydd Sul am 11yb ar S4C Clic.
Elfyn yn anelu am yr ail safle
Ac mae aelod o’r criw Ralïo yn credu mai Elfyn yw’r ffefryn i gipio’r ail safle yn y bencampwriaeth eleni, am y trydydd tro yn ei yrfa.
“Mae perfformiadau Elfyn wedi gwella dros y ralis diweddaraf, heb os,” meddai Emyr Penlan. “Wnaeth e gyfaddef i mi ar ôl Estonia mai dim ond nawr mae e’n dod yn gyfarwydd gyda’r car newydd, a dw i’n credu fod Rovanperä wedi bod yn fwy cyfforddus yn y car ers y cychwyn. S’dim lot rhyngddyn nhw nawr, ond mae’n rhy hwyr i Elfyn neu unrhyw un arall dal Kalle yn y ras am y bencampwriaeth bellach.
“Yr ail safle yw beth mae Elfyn a phawb arall yn brwydo amdano nawr mewn gwirionedd. Mae Thierry Neuville wedi bod yn ail yn y bencampwriaeth pum gwaith, mae Ott Tanak yn gyn-bencampwr nôl yn 2019, ac mae Elfyn wedi gorffen yn ail dwywaith, felly maen nhw i gyd yn yrwyr o safon ac yn awchu am fwy o lwyddiant y tymor hwn.
“Elfyn, fyddwn i’n dweud erbyn hyn, yw’r ffefryn, achos mae’r Toyota wedi profi mai’r Yaris yw’r car gorau yn y parc gwasanaethu. A Toyota yn sicr yw’r ffefrynnau i ennill pencampwriaeth y gwneuthurwyr, felly mae dal lot i Elfyn i gystadlu amdano’r tymor hwn.
“Ffindir sydd nesaf ac mae Elfyn fel arfer yn mynd yn dda yno. Enillodd e’r rali yno yn 2021 ac mae e di gael cwpwl o podiwms yno dros y blynydde, so mae fe’n licio ralis gravel cyflym, a Ffindir yw’r cyflyma’.
“Mae lot yn dweud mai’r Ffindir yw cartref ysbrydol ralïo, achos mae’r cymalau yn anhygoel ac mae lot o jumps a crests – lot o lan a lawr, tebyg i roller-coaster. Felly mae eisiau dewrder i fynd yn gyflym ar yr hewlydd yno.”
Bydd Ralïo yn edrych ymlaen at Rali’r Ffindir gyda fodlediad arbennig gyda Kalle Rovanperä ar nos Fercher 3 Awst. Bydd fodlediad arall yn edrych ymlaen at y cymal cyffro ar fore Sul 7 Awst, cyn i’r cymal gael ei ddangos yn fyw ar S4C Clic am 11yb. Bydd y criw Ralïo yn dadansoddi’r cyfan gyda fodlediad arall yn syth ar ôl y cymal, i’w weld ar dudalennau YouTube a Facebook Live @RalioS4C.