Bydd Cymru yn “creu hanes” nos Fawrth, Medi 6, drwy groesawu’r dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm rymgwladol merched yng Nghymru.

Mae’r tîm yn herio Slofenia am 7:45yh yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn gêm dyngedfennol wrth geisio sicrhau eu lle yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gosod targed o 10,000 o bobol i fynychu’r gêm.

Mae clybiau ac ysgolion ledled Cymru wedi manteisio ar gynnig archebu tocynnau fel grŵp trwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda phrisiau gostyngol ar gael am £2 i blant a £6 i oedolion.

Mae’r cynnig i archebu fel grŵp ar gael tan ddydd Mercher, Awst 24.

Cyn croesawu Slofenia i Gaerdydd, bydd merched Gemma Grainger yn teithio oddi cartref i herio Groeg.

Mae’n agos yn grŵp, gyda Chymru’n ail ac ar 16 o bwyntiau, tra bod Slofenia yn drydydd ar 14 o bwyntiau, a Groeg yn bedwerydd ar 13 o bwyntiau.

‘Noson hanesyddol’

“Rwy’n hynod o gyffrous i weld y Wal Goch yn dod i’n cefnogi ni mewn niferoedd, creu sŵn yn y stadiwm a chreu hanes unwaith eto yn yr ymgyrch hon,” meddai’r capten Sophie Ingle.

“Mae’r gefnogaeth yn meddwl y byd i ni fel chwaraewyr, diolch.

“Mae gêm y merched wedi gweld twf enfawr yn ddiweddar, yn enwedig efo’r Ewros i’w weld ym mhob man, ac ry’n ni’n methu aros i weld effaith hynny ar ein gemau yma yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gêm yn erbyn Slofenia yn noson hanesyddol i bêl-droed Cymru.”