Mae nifer medalau Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham wedi cynyddu eto yn dilyn noson euraid i Aled Siôn Davies.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cymro Cymraeg ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, wrth iddo ddod i’r brig yn y ddisgen F42-44/61-64 gyda thafliad o 51.39 metr.

Cipiodd Harrison Walsh y fedal efydd, ac er iddo fe a Dan Greaves daflu ymhellach nag Aled Siôn Davies, wnaeth hynny ddim tynnu’r fedal aur oddi wrtho gan fod y canlyniad ar sail pwyntiau yn hytrach na phellter gan fod dau ddosbarth wedi’u cyfuno.

24 awr ynghynt, enillodd Olivia Breen y fedal aur yn y 100m T37-38.

Roedd medalau arian hefyd i Joel Makin yn y sboncen a Natalie Powell mewn jiwdo.

Mae Cymru bellach wedi ennill 17 o fedalau – pedair aur, pedair arian a naw efydd.

Ac fe fydd rhagor i ddod heddiw (dydd Iau, Awst 4) wrth i Rosie Eccles a Taylor Bevan sicrhau y byddan nhw’n ennill medalau mewn paffio ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Mae pedwar arall hefyd yn gobeithio am fedalau, gyda’r efeilliaid Ioan a Garan Croft, Jake Dodd ac Owain Harris-Allen i gyd ymhlith yr wyth olaf.