Mae tîm criced Morgannwg yn chwarae eu gêm gartref gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London heddiw (dydd Iau, Awst 4).

Caint yw’r ymwelwyr ar gyfer ail gêm Morgannwg yn y gystadleuaeth, yn dilyn eu buddugoliaeth o wyth wiced oddi cartref yn Swydd Derby, gyda’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn cipio pedair wiced, cyn i’r capten Kiran Carlson daro 54 heb fod allan.

Bydd Morgannwg yn ceisio aros ar frig y tabl, uwchlaw’r ymwelwyr ar sail eu cyfradd rediadau.

Doedd dim modd cwblhau’r gêm 50 pelawd ddiwethaf yn erbyn Caint yng Nghaerdydd yn 2019 oherwydd y glaw, gyda dim ond 15 pelawd yn bosib.

Caint oedd yn fuddugol yng Nghaergaint yn 2018, a hynny o bedair wiced, ond Morgannwg oedd yn fuddugol yn y tair gêm cyn hynny – o 15 rhediad yn Abertawe yn 2017, ac o dair wiced yng Nghaerdydd yn 2015 a Chaergaint yn 2016.

Caint enillodd yr ornest yn 2014, a hynny o chwe wiced yng Nghaergaint.

Yn eu buddugoliaeth ddiwethaf dros Gaint yng Nghaerdydd yn 2015, fe wnaeth Chris Cooke serennu gyda 94 heb fod allan gyda’r rhod yn troi wrth i Forgannwg gipio buddugoliaeth annisgwyl.

Morgannwg: S Northeast, D Lloyd, C Ingram, K Carlson (capten), B Root, J Cooke, D Douthwaite, T Cullen, A Salter, J Weighell, J McIlroy

Caint: B Compton, J Evison, O Robinson, A Blake (capten), D Stevens, G Linde, G Stewart, H Qadri, N Gilchrist, M Quinn, N Saini

Sgorfwrdd