Drwy “blannu hadau bach” mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo i ysbrydoli’r cefnogwyr a’r tîm cenedlaethol i werthfawrogi’u hunaniaeth Gymreig.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r tîm pêl-droed cenedlaethol wedi bod yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ac erbyn hyn, mae gan yr iaith le amlwg yn y gamp.
Yn ystod sgwrs banel ym Maes D ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron, dywedodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mai’r llwyfan y mae’r tîm wedi’i dderbyn drwy eu llwyddiant ar y cae sydd wedi caniatáu iddyn nhw blannu hadau Cymreictod.
Y cyflwynydd Sean Fletcher oedd yn cadeirio’r sgwrs ar ‘Cymraeg y Dyfodol’ yng nghwmni Ian Gwyn Hughes, Gwenllian Carr, a Dr Dylan Foster Evans heddiw (dydd Iau, Awst 4).
“Pan wnaethon ni gychwyn, ryw ddeng mlynedd yn ôl, yr un criw a Gary Speed fel rheolwr, roedd yna apathi tuag at y tîm gan y cyhoedd yn gyffredinol, ac efallai bod yna apathi tuag at y cefnogwyr hefyd,” meddai Ian Gwyn Hughes yn ystod y sesiwn.
“Sut oedden ni’n mynd ati i wneud i bobol boeni am bêl-droed?
“Wrth gwrs, roedd rhaid cael llwyddiant ar y cae, ond roedd rhaid gwneud i’r Gymdeithas fod yn berthnasol.
“Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni, yn eironig iawn, gaethon ni gefnogaeth ffantastig gan yr Eisteddfod yn Wrecsam. Elfed Roberts, y prif weithredwr ar y pryd, yn caniatáu i ni wneud cynhadledd i’r wasg gyda Gary Speed, yn Saesneg, ond roedd natur y peth yn Gymreig.
“Roeddwn i’n teimlo bod hynny’n beth pwysig i ddangos ryw fath o bresenoldeb.
“Fel tîm, dydy lot o’r chwaraewyr ddim yn dod o Gymru, yn chwarae i Gymru oherwydd eu rhieni neu eu neiniau a’u teidiau, felly [rydyn ni’n trio] cyflwyno ryw fath o hunaniaeth Gymraeg, diwylliant Cymru, hanes Cymru.
“A thrwy hynny, mae’r iaith yn rhan o hynny. A gobeithio trwy wneud hynny eu bod nhw eisiau gwybod mwy am yr iaith, ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n canu’r anthem – a rŵan maen nhw’n gwneud hynny. Plannu hadau bach.
“Mae yna tua saith o’r garfan fydd efallai’n mynd i Qatar rŵan sy’n Gymry Cymraeg. Mae’r [ymdeimlad] wedi cael ei drosglwyddo’n naturiol, roedd Gary Speed yn gefnogol, Chris Coleman sydd wedi bod ar raglen ar S4C yn dysgu’r iaith, roedd Ryan [Giggs yn gefnogol], a rŵan Rob Page.
“Mae pawb wedi prynu mewn i’r peth.”
Rhoi cyfleoedd i godi hyder
Mae rhoi’r hyder i chwaraewyr sy’n siarad Cymraeg wneud cyfweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o’r gwaith hefyd, meddai Ian Gwyn Hughes.
Wrth drafod hyder, dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, fod rhaid sicrhau bod pobol yn siarad yr iaith o ddydd i ddydd wrth gynyddu nifer y siaradwyr.
“Mae’r tîm pêl-droed wedi bod yn wych,” meddai.
“Mae beth rydych chi wedi’i wneud efo’r iaith wedi ysbrydoli nifer fawr o bobol, pobol sy’n dysgu’r Gymraeg o’r newydd ond dw i’n gweithio yn y brifysgol efo pobol sy’n astudio’r Gymraeg fel rhan o’u gradd ac maen nhw hefyd yn cael eu hysbrydoli. Mae’n gwneud lles i bawb.
“Mae cael miliwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn 2050 yn heriol iawn. Rhan arall o’r targed ydy dyblu faint o bobol sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, sydd efallai’n bwysicach.
“Fe allech chi gael sefyllfa lle mae miliwn o bobol yn gallu siarad Cymraeg ond dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg.
“Weithiau rydyn ni’n meddwl am hyder fel ein bod ni eisiau rhoi hyder i bobol ac wedyn fydda nhw’n gallu defnyddio’r Gymraeg, ond dw i ddim yn meddwl ei fod e’n gweithio fel yna.
“Dw i ddim yn gallu nofio’n dda iawn, dw i ddim yn hyderus iawn yn nofio, ond os ydw i’n eistedd ar ochr y pwll yn darllen am nofio neu’n gwylio fideo YouTube am nofio, dydy e ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth. Mae’n rhaid i fi fynd mewn i’r pwll, a dyna’r unig beth wneith weithio.
“Mae rhoi cyfleoedd i bobol wneud pethau gwahanol drwy gyfrwng yr iaith yn hanfodol – chwaraeon, unrhyw faes arall, fel bod pobol yn defnyddio’r iaith ar bwrpas.”