Bu’n rhaid i Geraint Thomas fodloni ar fedal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, yn dilyn gwrthdrawiad yn gynnar yn y ras yn erbyn y cloc.

Fred Wright o Loegr gipiodd y fedal arian, a’r Awstraliad Rohan Dennis aeth â’r fedal aur.

Roedd Thomas 28.49 eiliad y tu ôl i’r enillydd yn y pen draw, a hynny ar ôl colli dros 30 eiliad o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Gorffennodd y Cymro’n drydydd yn y Tour de France yn yr haf, ac roedd e wedi gobeithio rhagori ar ei fedal efydd yn Glasgow yn 2014, ond fe darodd yn erbyn bariau a cholli momentwm wrth gwympo ar adeg dyngedfennol yn y ras.

Bydd cyfle arall ganddo fe ddydd Sul (Awst 7), pan fydd e’n ceisio efelychu ei berfformiad ar y ffordd yn 2014 gan ennill y fedal aur.