Mae tîm criced Morgannwg wedi llwyddo i gwrso nod o 305 yn llwyddiannus wrth guro Caint o dair wiced yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yng Nghaerdydd.
Roedden nhw heb ddau o’u chwaraewyr pennaf ar gyfer yr ornest, gyda’r wicedwr Chris Cooke allan ag anaf a’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten wedi’i alw i’r Can Pelen i chwarae i Birmingham Phoenix.
Tarodd Joey Evison 109 wrth agor y batiad i’r ymwelwyr, gyda chyfraniadau hefyd o 66 gan y capten Alex Blake a 50 gan Ollie Robinson wrth iddyn nhw sgorio 304 am wyth yn eu 50 pelawd, gyda James Weighell, Colin Ingram a Dan Douthwaite yn cipio dwy wiced yr un.
Roedd angen i’r sir Gymreig fatio’n gadarn os oedden nhw am ddod yn agos at y nod, ac fe adeiladodd Colin Ingram (155) a Tom Cullen (80 heb fod allan) bartneriaeth o 186 am y chweched wiced mewn 28 pelawd – sy’n record i’r sir – i sicrhau’r fuddugoliaeth, gyda’r ddau yn cyrraedd eu sgôr undydd gorau erioed.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg ar frig y tabl ar ôl dwy gêm a dwy fuddugoliaeth, tra bod Caint yn drydydd.