Sgoriodd Will Jacks 81 oddi ar 45 o belenni i sicrhau buddugoliaeth o 39 rhediad i dîm criced yr Oval Invincibles yn erbyn y Tân Cymreig yn y Can Pelen yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw ar waelod y tabl ar ôl dwy gêm.

Bymtheg pelen gymerodd hi i’r Tân Cymreig gael y batiwr cyntaf allan, wrth i Jason Roy gael ei ddal i lawr ochr y goes gan David Payne oddi ar fowlio George Scrimshaw am ddeg, ac aeth yr ail fatiwr allan ar ôl ugain pelawd wrth i’r maeswr a’r bowliwr gyfnewid rolau i waredu Rilee Rossouw am bump i adael yr Invincibles yn 22 am ddwy.

Roedden nhw’n 51 am dair ar ôl 40 pelen wrth i Ryan Higgins daro coes Sam Billings o flaen y wiced am 14.

Brwydrodd Will Jacks ben draw’r llain i sicrhau sefydlogrwydd i’r batiad, gan daro ergyd chwech gynta’r gêm oddi ar belen rhif 71, ac fe wnaeth Sam Curran daro’r ail oddi ar belen rhif 84 cyn mynd allan oddi ar y belen ganlynol, wrth yrru’r troellwr coes Adam Zampa i lawr corn gwddf David Miller am 26.

Daeth y drydedd ergyd chwech oddi ar belen rhif 89 gan Jacks, yn fuan ar ôl iddo fe gyrraedd ei hanner canred, y bedwaredd oddi ar belen rhif 94 a’r bumed oddi ar belen rhif 97.

Ond fe aeth e allan oddi ar y belen ganlynol, wrth gael ei ddal ar y ffin gan Ben Duckett oddi ar fowlio Higgins am 81 oddi ar 45 o belenni, gyda’i dîm yn gorffen ar 158 am bump.

Tân Cymreig yn cwrso

Joe Clarke, gafodd ei addysg yn Llanfyllin, a Tom Banton gafodd y cyfrifoldeb o agor y batio a doedd hi ddim yn hir cyn iddyn nhw ddechrau clatsio, gyda Clarke yn taro dwy ergyd chwech yn olynol oddi ar y troellwr llaw chwith Danny Briggs.

Daeth eu trydedd ergyd chwech tua chwarter ffordd trwy’r batiad, wrth i Banton dynnu Sam Curran fel bod angen 121 ar y Tân Cymreig gyda thri chwarter eu batiad yn weddill.

Ond collon nhw eu wiced gyntaf oddi ar belen rhif 35, wrth i Sunil Narine daro coes Banton o flaen y wiced am 15, a’r sgôr yn 45 am un.

Erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, roedd y Tân Cymreig ar y blaen i’r gyfradd angenrheidiol i ennill ond collon nhw Joe Clarke, a gafodd ei ddal ar y ffin gan Sam Curran oddi ar belen rhif 57 oddi ar fowlio’i frawd Tom Curran, a’r sgôr yn 72 am ddwy.

Roedden nhw’n 73 am dair ar ôl 62 pelen pan gafodd Ollie Pope ei fowlio gan Narine heb sgorio, a’r pwysau’n dechrau cynyddu ar y batwyr wrth i David Miller, ar ôl goroesi cyfle am ddaliad, gael ei ddal ar y ffin am dri gan Matt Milnes, yn tynnu pelen gan Tom Curran, a’i dîm yn 77 am bedair ar ôl 70 pelen.

Tarodd Josh Cobb chwech oddi ar Narine cyn cael ei fowlio oddi ar y belen ganlynol am 11 i adael Duckett fel yr unig fatiwr cydnabyddedig ar ôl, gyda’r sgôr yn 96 am bump ar ôl 80 pelen, ond cafodd hwnnw ei fowlio gan Sam Curran am 25 ac roedd y Tân Cymreig mewn rhywfaint o drafferthion ar 99 am chwech.

Erbyn pelen rhif 91, roedd angen chwech oddi ar bob pelen ar y Tân Cymreig.