Roedd tair medal aur i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ddoe (dydd Sul, Awst 7).
Fe wnaeth Joshua Stacey guro Lin Ma yn y para-tenis bwrdd – yr enillydd cyntaf erioed o Gymru – tra bod Rosie Eccles a Ioan Croft wedi dod i’r brig yn y paffio.
Rosie Eccles yw’r ail Gymraes erioed i ennill medal mewn paffio i Gymru ar ôl Lauren Price.
Roedd medal arian i Taylor Bevan yn y paffio hefyd, wrth i’r tîm dorri eu record am y nifer fwyaf o fedalau yn y Gemau – dwy aur, un arian a thair efydd.
Mae Cymru wedi ennill 27 o fedalau ar draws yr holl gampau – wyth aur, chwech arian a 13 efydd.
Bydd Anna Hursey a Charlotte Carey yn cystadlu am fedal efydd yn y dyblau tenis bwrdd heddiw (dydd Llun, Awst 8), tra bydd Aidan Heslop a Ruby Thorne yn cystadlu ar y cyd yn y ffeinal plymio 10m oddi ar blatfform.
Daw llwyddiant Ioan Croft ar ôl i’w frawd Garan ennill medal efydd, ac fe gurodd e Stephen Zimba o Zambia, ond fe fu’n rhaid i Tyler Bevan fodloni ar arian ar ôl colli yn erbyn Sean Lazzerini o’r Alban.
Siom i eraill
Yn y cyfamser, mae Geraint Thomas yn dweud na fydd e’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad eto ar ôl gorffen yn wythfed yn y ras ar y ffordd, a hynny ar ôl cipio’r efydd yn erbyn y cloc.
Daeth Eluned King yn wythfed yn ei ras hithau ar y ffordd, a hynny ar ôl iddi hithau hefyd ennill y fedal efydd yn erbyn y cloc.
Ar ôl dychwelyd ar ôl geni mab, gorffennodd Elinor Barker yn 41ain.
Yn y pwll, gorffennodd Aidan Heslop yn wythfed yn ffeinal y platfform 10m.
Roedd Cymru’n chweched yn yr hoci ar ôl colli yn erbyn Seland Newydd, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill gêm grŵp yng Ngemau’r Gymanwlad.
Daeth Melissa Courtney-Bryant yn ddegfed yn y 1,500m, tra bod Jennifer Nesbitt yn ddeuddegfed a Beth Kidger y tu ôl iddi yn y 5,000m.