Gallai clwb pêl-droed cymunedol orfod symud o’r cae lle maen nhw’n chwarae ers dros 50 mlynedd, o ganlyniad i lifogydd cyson.

Mae Clwb Pêl-droed Llanrwst wedi bod yn chwarae ar Barc Gwydir ers cyn y 1970au, ond mae llifogydd cyson yn costio miloedd o bunnoedd iddyn nhw bob blwyddyn.

Er bod afon Conwy wedi gorlifo erioed, mae cynhesu byd-eang wedi gwaethygu’r sefyllfa, gan wneud stormydd a thywydd nad oes modd ei ddarogan yn rywbeth mwy cyson.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne ei bod hi’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy o arian er mwyn gwarchod y dref.

Daeth ei ble ar ôl i afon Conwy orlifo ac achosi i geir fynd o dan ddŵr ym maes parcio Glasdir.

‘Gwarthus’

Mae Chris Williams, cadeirydd Clwb Pêl-droed Llanrwst, clwb cymunedol nid-er-elw, yn dweud y gallai’r clwb orfod symud o Barc Gwydir.

“Yn amlwg, rydyn ni’n gyfarwydd efo llifogydd achos mae o’n digwydd dipyn yn y gaeaf,” meddai.

“Mae’n warthus ei fod o’n digwydd adeg yma’r flwyddyn, tydi, yn enwedig a hithau mor sych.

“A bod yn onest, efo newid hinsawdd, y ffordd mae o’n mynd, pwy a ŵyr? Yn ddelfrydol, hoffwn i symud.

“Dw i ddim yn meddwl bod dyfodol tymor hir yma’n ddichonadwy.

“Ers ychydig o flynyddoedd, mae o’n costio miloedd o bunnoedd bob blwyddyn i ni – rydan ni wedi prynu goliau, bariau, bariau i’r cae…

“Rydan ni newydd wario £4,000 ar y cae, ddim yn hir yn ôl, i ailosod hadau a thywod ar y cae i geisio gwella’r amodau chwarae ac yna mae un noson o law, ac mae’r ffaith ei fod o’n gorlifo’n dorcalonnus i ni fel clwb oherwydd mae’r arian yna wedi cael ei wastraffu, ac mae’n arian nad oes gynnon ni.

“Dw i’n eitha’ blin efo fo wir, achos y cae a’r cae rhyngom ni a chastell Gwydir sy’n dueddol o’i chael hi waethaf efo’r holl lifogydd, ac mae’r dŵr yn aros am amser hir iawn, felly mae o’n dorcalonnus.”

Aelodau’r pwyllgor yn ddigalon

Mae’n dweud bod difrod parhaus i’r cae wedi arwain at golli aelodau o bwyllgor y clwb.

“Bob tro mae o’n gorlifo, mae o’n gadael llaid, ac yn amlwg rydan ni bob amser yn cael problemau efo draeniad yno beth bynnag,” meddai.

“Mae’r cae yn gwaethygu dipyn, ac mae [silt] yn gorwedd ar ben y cae. Dydi o ddim yn dda i ddraeniad.

“Mae hi’n frwydr barhaus. Dw i wedi bod efo’r clwb ers amser hir, a dydi o ddim yn gwella.

“Mae aelodau ein pwyllgor yn mynd yn ddigalon.

“Dw i wedi colli llawer o aelodau pwyllgor dros y blynyddoedd sy’n diflasu efo clirio gwehilion.

“Yn amlwg, ychydig flynyddoedd yn ôl, mi gawson ni storm fawr ac mi gollon ni goliau.

“Roedd rhaid i ni brynu goliau newydd am £800 a ffensys newydd am £1,500.

“Mae o’n barhaus bob blwyddyn, a dydyn ni ddim yn cael unrhyw gefnogaeth.

“Mae ein holl arian yn dod o’i godi fo.

“Dw i wedi colli aelodau pwyllgor dros y blynyddoedd oherwydd maen nhw’n diflasu efo’r holl lanhau a’r oriau.

“Rydach chi jyst mewn brwydr barhaus, yn enwedig yn y gaeaf.”

Ymateb yr awdurdodau

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi buddsoddi £9m er mwyn gwarchod Dyffryn Conwy rhag llifogydd, ond fe wnaethon nhw gyfaddef fod cynhesu byd-eang wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw wedi buddsoddi £71m ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ledled Cymru.

Mae Cyngor Sir Conwy wedi derbyn cais am ymateb.