Mae Ryan Giggs, cyn-chwaraewr a rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn y llys heddiw (dydd Llun, Awst 8) i wynebu cyhuddiadau o ymosod ar ei gyn-gariad a cheisio’i rheoli.

Mae’r achos yn Llys y Goron Crown Square wedi dechrau y prynhawn yma yn dilyn cyfnod o oedi, ac mae’r rheithgor o 12 – pum dyn a saith dynes – wedi’i ddewis. Ar ôl heddiw, bydd yr achos yn dychwelyd i Lys y Goron Manceinion.

Mae disgwyl i’r achos bara pythefnos.

Mae’r honiadau yn erbyn Ryan Giggs yn ymwneud â sawl digwyddiad yn ardal Manceinion dros gyfnod sylweddol o amser – rhwng 2017 a 2020 – pan oedd Kate Greville, ei gyn-gariad, wedi’i chyflogi gan ei gwmni cysylltiadau cyhoeddus, Tangerine.

Yn ôl y cyhuddiadau sydd wedi cael eu hamlinellu yn y llys, roedd Giggs wedi bod yn anfon negeseuon ati pan oedd hi allan gyda’i ffrindiau ac yn gofyn am ei pherthynas â phobol eraill ac yn bygwth anfon negeseuon at ei ffrindiau a phobol eraill am eu perthynas rywiol; taflu ei heiddo allan o’i gartref pan fyddai’n gofyn am ei berthynas â menywod eraill; cicio Katie Greville yn ei chefn mewn gwesty yn Llundain a’i thaflu hi allan o’r ystafell yn noethlymun ac yna’i heiddo; anfon negeseuon a’i ffonio hi a’i ffrindiau pan geisiodd hi ddod â’r berthynas i ben; a mynd i’w chartref, ei gweithle ac i’r gampfa i’w gweld hi ar ôl i’r berthynas ddod i ben.

Mae cyhuddiad arall yn ymwneud ag ymosodiad ac achosi niwed corfforol i Kate Greville yn 2020, a’r trydydd cyhuddiad yn ymwneud ag ymosod arni a’i churo ar yr un diwrnod.

Mae’r rheithgor wedi cael rhybudd gan y barnwr i beidio ag ymchwilio i’r achos na darllen unrhyw fanylion ar y we nac yn y newyddion, nac i siarad â neb arall y tu allan i’r llys am yr achos.

Erlyniad

Mae’r erlynwyr yn dadlau bod Ryan Giggs wedi taro Kate Greville â’i ben a’i chwaer yn ei gên gyda’i benelin yn dilyn ffrae yn ei gartref.

Fe wnaeth yr ymosodiad honedig achos chwyddo i wefusau ei gyn-gariad ar ôl iddo “golli rheolaeth arno’i hun”,

Maen nhw’n dadlau iddo achosi niwed corfforol a seicoleg “systematig” iddi.

Amddiffyniad

Ond mae cyfreithwyr Ryan Giggs yn dweud bod yr honiadau yn ei erbyn yn “gas a gwarthus”.

Maen nhw’n dweud iddo gefnogi ei gyn-gariad yn ei bywyd a’i gyrfa, ac nad oedd e wedi colli rheolaeth arno’i hun o gwbl.

Mae Giggs yn gwadu’r holl honiadau yn ei erbyn, ac mae’r achos yn parhau.