Bydd tîm Cymru’n cael Dathliad Dychwelyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener (Awst 12) ar ôl Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham.

Enillodd Cymru gyfanswm o 28 o fedalau yn ystod y gemau – wyth aur, chwech arian ac 14 efydd.

Bydd y dathliad yn dechrau ar risiau’r Senedd am 6 o’r gloch.

Darllenwch am rai o lwyddiannau Cymru drwy fynd i’r straeon hyn:

Garan a Ioan Croft

Tair medal aur y Gymanwlad i Gymru yn Birmingham

Joshua Stacey, Ioan Croft a Rosie Eccles ymhlith yr enillwyr medalau ar ddydd Sul (Awst 7)

Medal efydd i Geraint Thomas

Collodd y Cymro gyfle am fedal aur yn erbyn y cloc yn dilyn gwrthdrawiad
Aled Siôn Davies yn Rio

Rhagor o fedalau i Gymru yn Birmingham

Aur i Aled Siôn Davies, arian i Joel Makin a Natalie Powell ac efydd i Harrison Walsh, gyda rhagor yn sicr o ennill medalau heddiw (dydd Iau, Awst 4)
Bowls Cymru

Medal aur yn y bowls i ddynion Cymru yn Birmingham

Fe wnaeth Daniel Salmon a Jarrad Breen guro Jamie Walker a Sam Tolchard o Loegr yn y rownd derfynol

Medalau i Gymru ar drydydd diwrnod Gemau’r Gymanwlad

Mae Cymru bellach wedi ennill naw o fedalau