Bydd tîm Cymru fu’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn cael croeso adref yn y Senedd ddydd Gwener (Awst 12).

Fel rhan o’r dathliadau ym Mae Caerdydd, bydd cyfle i bobol fynd draw i ddathlu llwyddiant yr athletwyr.

Ar ôl sicrhau 28 o fedalau dros y 12 diwrnod o gystadlu yn Birmingham, dychwelodd Tîm Cymru adref ar ôl y seremoni cloi ddoe (dydd Llun, Awst 8), gyda’r capten Anwen Butten hefyd yn cadarnhau ei bod hi am ymddeol o gystadlu ar y llwyfan mawr.

Bydd yr athletwyr llwyddiannus yn cael eu croesawu i’r Senedd gan David Rees, Dirprwy Lywydd y Senedd, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Byddan nhw hefyd yn cael eu cyflwyno â medalau yn ystod y digwyddiad y tu allan i’r Senedd i gofio am eu perfformiadau, ac mae gwahoddiad i’r cyhoedd ymuno a’r dathliadau am 5:30yh.

Fe fydd adloniant gan sêr y byd theatr, Welsh of the West End, a band jazz o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

‘Cenedl falch’

Dywed David Rees, yr Aelod o’r Senedd Llafur dros Aberafan, fod Tîm Cymru “unwaith eto wedi gwneud ein cenedl yn falch”.

“Braint o’r mwyaf fydd croesawu’r athletwyr a’r hyfforddwyr i’r Senedd nos Wener yma ar gyfer dathliad cyhoeddus o’u llwyddiannau anhygoel,” meddai.

“Does dim amheuaeth bod yr ymroddiad, y chwarae teg a’r gwaith caled a ddangoswyd gan Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Unwaith eto maen nhw wedi profi bod Cymru yn genedl o arwyr – felly gadewch i ni roi croeso arwrol adref iddyn nhw.”