Mae Sam Northeast, batiwr Morgannwg, wedi cael ei enwi’n Chwaraewr y Mis Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol ar gyfer Gorffennaf.

Sgoriodd y Sais 701 o rediadau yn ystod y mis, gan gynnwys 410 heb fod allan mewn un batiad yn erbyn Swydd Gaerlŷr, sy’n record i’r sir ar gyfer un batiwr mewn gêm dosbarth cyntaf, gan drechu 309 heb fod allan Steve James yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn yn 2000.

Does neb wedi sgorio mwy o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn na Northeast, sydd wedi sgorio cyfanswm o 1,127, ac sy’n treulio’i dymor cyntaf yng Nghymru ar ôl cyfnodau gyda Chaint a Hampshire.

Dim ond ddwywaith roedd y batiwr 32 oed allan yn ystod y mis.

Roedd ei fatiad o 410 heb fod allan oddi ar 450 o belenni’n cynnwys 45 pedwar a thair chwech, ac fe enillodd e 67 o bwyntiau yn y tabl Chwaraewyr Mwyaf Gwerthfawr (MVP) yn y ras am y wobr o £10,000.

Cafodd e gryn lwyddiant yn y Vitality Blast hefyd, gan sgorio 97 heb fod allan oddi ar 56 o belenni, gan gynnwys deg pedwar a phedwar chwech, yn erbyn Essex.