Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Swydd Efrog i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Awst 10), wrth iddyn nhw anelu am drydedd buddugoliaeth o’r bron ar ddechrau cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Daw’r ornest hon ar ôl chwip o fuddugoliaeth i Forgannwg dros Gaint, gyda Colin Ingram yn taro 155, y sgôr gorau erioed i Forgannwg yng Ngerddi Sophia.
Adeiladodd Ingram a Tom Cullen (80 heb fod allan) bartneriaeth o 186, ar ôl i’r wicedwr wrth gefn ddod i mewn i’r tîm yn absenoldeb Chris Cooke.
Mae James Harris o Abertawe yn dychwelyd i’r garfan ar ôl i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gael ei alw i garfan Birmingham Phoenix yn y Can Pelen, sydd wedi bod yn cael cryn dipyn mwy o sylw na’r gystadleuaeth 50 pelawd dros yr wythnosau diwethaf.
Mae Morgannwg yn drydydd yn y tabl, un safle uwchlaw’r gwrthwynebwyr, sydd wedi ennill dwy allan o’u tair gêm hyd yn hyn.
“Dw i wedi addasu ambell beth,” meddai Colin Ingram.
“Dw i’n mentro dweud bod criced yn y Bencampwriaeth wedi helpu gyda hynny, mae wynebu mwy o belenni yn ystod y flwyddyn, boed yn droellwyr neu’n fowlio sêm, yn helpu.
“Dw i’n mwynhau batio ar hyn o bryd, sy’n bwysig dw i’n meddwl.
“Dw i’n ei chadw hi’n syml, yn ceisio adeiladu partneriaethau ac yn ceisio helpu’r bois eraill yn y grŵp.
“Ar y cyfan, dw i’n ei fwynhau e ac yn teimlo fy mod i’n ei tharo hi’n dda, sydd bob amser yn helpu.”
Gemau’r gorffennol
Cyn y tymor diwethaf, doedd Morgannwg ddim wedi herio Swydd Efrog mewn gêm undydd Rhestr A (40, 45 neu 50 pelawd) ers 2007, a’r Saeson enillodd flwyddyn yn ôl, a hynny o bedwar rhediad.
Bryd hynny, tarodd Jonny Tattersall 52 a Matthew Waite 44 mewn partneriaeth dyngedfennol i sir y rhosyn gwyn, er i Hamish Rutherford (58) a Nick Selman (92) adeiladu partneriaeth agoriadol o 121 cyn i Forgannwg fethu â chwrso 231.
Y gêm fwyaf cofiadwy rhwng y ddwy sir dros y degawdau diwethaf, efallai, yw honno yn 1997 pan oedd Morgannwg yn fuddugol o un rhediad yn rownd wyth olaf Cwpan NatWest cyn mynd yn eu blaenau i ennill Pencampwriaeth y Siroedd ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Roedden nhw hefyd yn fuddugol, o bedair wiced, yn 1996, ac o 21 rhediad yn 2002.
Swydd Efrog enillodd yn 1998 (o 37 rhediad) ac yn 2007 (o wyth wiced).
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, J Cooke, T Cullen, D Douthwaite, J Harris, C Ingram, D Lloyd, J McIlroy, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, J Weighell
Carfan Swydd Efrog: F Bean, D Bess, B Cliff, B Coad, H Duke, W Fraine, G Hill, W Luxton, T Loten, M Revis, J Shutt, H Sullivan, J Tattersall (capten), M Waite