Casnewydd yw’r unig dîm pêl-droed o Gymru sy’n dal yng Nghwpan Carabao erbyn hyn, ar ôl iddyn nhw guro Luton oddi cartref o 3-2 neithiwr (nos Fawrth, Awst 10).

Roedden nhw ar ei hôl hi ddwywaith, cyn i James Waite gipio’r gôl fuddugol ar ôl 75 munud.

Aeth Luton ar y blaen drwy Carlos Mendes Gomes ag ergyd o bell, ond fe wnaeth Lewis Collins unioni’r sgôr chwe munud yn ddiweddarach.

Aeth y Saeson ar y blaen eto drwy’r Cymro Tom Lockyer, gyda Chanka Zimba yn ei gwneud hi’n 2-2 funudau’n ddiweddarach.

Caerdydd yn cael crasfa

Colli o 3-0 wnaeth Caerdydd gartref yn erbyn Portsmouth.

Er i’r Adar Gleision gael cryn dipyn o feddiant, wnaethon nhw ddim llwyddo i reoli’r gêm.

Camgymeriad gan Curtis Nelson arweiniodd at gôl Joe Piggott i roi’r Saeson ar y blaen, cyn i Nelson ildio cic gosb a Ronan Curtis yn dyblu’r fantais.

Peniad gan Colby Bishop sicrhaodd y drydedd gôl.

Oxford United yn cosbi’r Elyrch

Dylai Abertawe fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn Oxford United, tîm o’r Adran Gyntaf, ar ôl mynd ar y blaen o 2-0.

Sgoriodd Jay Fulton a Liam Cullen yn yr hanner cyntaf, ond doedd yr Elyrch ddim yn gallu cadw eu gafael ar eu mantais, gydag Alex Gorrin yn taro nôl cyn i Cameron Brannagan unioni’r sgôr.

Methodd Matty Sorinola pan aeth y gêm i giciau o’r smotyn, a daeth y gic fuddugol gan Brannagan i’w gwneud hi’n 5-3 ar noson siomedig dros ben i dîm Russell Martin sy’n dal heb ennill y tymor hwn.