Mae tîm criced Morgannwg wedi colli am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London eleni.

Swydd Efrog oedd yn fuddugol o 23 o rediadau yng Ngerddi Sophia, wrth i Forgannwg golli wicedi cynnar wrth geisio cwrso 258 i ennill.

Gosododd Will Fraine (40) a Harry Duke (87) y seiliau i’r Saeson wrth agor y batiad, cyn i’r troellwr Andrew Salter dorri’r bartneriaeth wrth waredu Fraine, cyn i’r capten Jonny Tattersall gyfrannu 55 gyda’r bat.

Er i Kiran Carlson, capten Morgannwg, sgorio 64, roedd y bowlio’n rhy gryf i’r sir Gymreig, yn enwedig y troellwr Jack Shutt, a gipiodd bedair wiced am 46 yn ei ddeg pelawd.

Collodd Morgannwg wicedi hollbwysig yn rhy aml yn y batiad, ac roedden nhw eisoes yn 54 am dair ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio.

Batiodd James Weighell yn gadarn yn niwedd y batiad wrth sgorio 33, ond roedd gormod i’w wneud erbyn hynny, ar ôl i’w dîm lithro o 107 am dair i 192 am naw cyn i Weighell gael cwmni Jamie McIlroy gyda chwta wyth pelawd yn weddill i geisio sgorio 65.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Swydd Efrog wedi codi i’r ail safle yn y tabl, tra bod Morgannwg yn bedwerydd, gyda thaith i Northampton ar y gorwel ddydd Gwener (Awst 12) ac i Essex ddydd Sul (Awst 14).

Sgorfwrdd

Morgannwg yn anelu am yr hatric

Swydd Efrog yw’r ymwelwyr â Chaerdydd yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd