Bydd Joe Allen a Ben Cabango ar gael i chwarae i dîm pêl-droed Abertawe ddydd Sadwrn (Awst 13), wrth iddyn nhw deithio i Blackpool yn y Bencampwriaeth.

Mae’r ddau wedi llwyddo i wella o anafiadau.

Ben Cabango
Ben Cabango

Chwaraeodd Cabango 90 munud yn erbyn Oxford United yng Nghwpan Carabao yr wythnos hon wrth iddo arwain y tîm yn absenoldeb Matt Grimes, tra bod Joe Allen wedi dod oddi ar y fainc ar gyfer yr hanner awr olaf.

“Mae Joe Allen a Ben Cabango, ill dau, yn barod i ddechrau,” meddai’r rheolwr Russell Martin, sydd wedi cadarnhau bod Jamie Paterson am gael prawf ffitrwydd.

“Fe wnaethon nhw ymadfer ar ôl nos Fawrth ac ymuno yn y sesiwn hyfforddi heddiw.

“Maen nhw, ill dau, yn barod i ddechrau nawr.”

Yn y cyfamser, mae Jordon Garrick wedi ymuno â Lincoln ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, tra bod Kyle Joseph wedi ymuno ag Oxford United ar fenthyg tan ddiwedd y tymor hefyd.