Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod angen i’r clwb roi “hwb” i’r cefnogwyr ar ôl dechrau gwael i’r tymor.

Collodd Abertawe yn erbyn Oxford nos Fawrth (Awst 9), gan ddisgyn allan o Gwpan Carabao.

A dim ond un pwynt y maen nhw wedi ei gymryd o’u dwy gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

“Byddem wrth ein boddau pe baen ni wedi ennill dwy gêm ond dim ond un tîm sydd wedi ennill dwy gêm ac fe aeth 11 neu 12 (tîm) o’r Bencampwriaeth allan yn y gwpan,” meddai.

“Rydyn ni’n haeddu beirniadaeth pan rydyn ni’n chwarae felly. Mae’n anodd i rai pobol ei dderbyn.

“Dydyn ni ddim eisiau bod yn araf, yn rhagweladwy ac yn chwarae yn ein hanner ein hunain.

“Mae bywyd, pêl-droed, gwleidyddiaeth mor eithafol y dyddiau hyn.

“Y cyfan dwi’n ei ofyn yw, pan rydyn ni’n chwarae, fod y cefnogwyr wir yn cefnogi ein tîm, fel maen nhw wastad wedi gwneud.

“Dydd Sadwrn diwethaf, dwi’n gwybod fod rhwystredigaeth (yn erbyn Blackburn), roedd y bechgyn yn gallu teimlo hynny.

“Dyw e ddim yn helpu’r chwaraewyr, ond mae gan gefnogwyr hawl i’w barn.

“Nhw yw’r bobl bwysicaf yn y clwb pêl-droed ac mae angen i ni geisio rhoi hwb iddyn nhw.”