Mae un newid yng ngharfan griced Morgannwg i herio Swydd Northampton yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Northampton heddiw (dydd Gwener, Awst 12).

Mae Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith, wedi anafu llinyn y gâr ac mae’r chwaraewr amryddawn Albanaidd Ruaidhri Smith yn dychwelyd am y tro cyntaf y tymor hwn i gymryd ei le wrth i Forgannwg geisio dal eu gafael ar y tlws eleni.

Cipiodd McIlroy ddwy wiced am 37 yn erbyn sir y rhosyn gwyn cyn cael ei anafu.

Mae Morgannwg. wedi ennill dwy gêm a cholli un yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, ac maen nhw’n bedwerydd yn y tabl, tra bod Swydd Northampton un safle islaw eu gwrthwynebwyr ar ôl colli yn erbyn Hampshire.

Gemau’r gorffennol

Morgannwg enillodd y gêm Rhestr A ddiwethaf rhwng y ddwy sir, y tymor diwethaf, wrth i Hamish Rutherford (86) a Tom Cullen (58 heb fod allan) arwain y ffordd wrth i’r sir Gymreig sgorio 295 am chwech, gyda’r Saeson yn colli o 59 rhediad.

Yn y chwe gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw, mae Swydd Northampton wedi ennill tair, Morgannwg wedi ennill dwy ac un wedi dod i ben heb ganlyniad.

Roedd Morgannwg hefyd yn fuddugol yn 2008 – y tro blaenorol iddyn nhw ennill cyn 2021 – pan sgoriodd Tom Maynard 46, gyda James Harris, Alex Wharf a Dean Cosker yn bowlio’n gadarn i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mewn 49 o gemau Rhestr A rhwng y ddwy sir, mae Morgannwg wedi ennill 29 ohonyn nhw ac wedi colli 18.

Un o’r gemau enwocaf rhyngddyn nhw oedd honno yn 1975, pan darodd Majid Khan hanner canred oddi ar 22 o belenni o flaen y camerâu teledu.

Carfan Swydd Northampton: W Young (capten), N Buck, E Gay, B Glover, F Heldreich, R Keogh, L McManus, G Miller, A Russell, J Sales, B Sanderson, R Vasconcelos, S Zaib

Carfan Morgannwg: K Carlson, T Bevan, J Cooke, T Cullen, D Douthwaite, J Harris, C Ingram, D Lloyd, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, R Smith, J Weighell

Sgorfwrdd