Mae Clwb Criced Swydd Gaerloyw wedi denu cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Marchant de Lange.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd tan ddiwedd tymor 2025.

Chwaraewr tramor yw e ar hyn o bryd, fel un sy’n hanu o Dde Affrica, ond mae disgwyl iddo fe gofrestru i fod yn chwaraewr domestig yn sgil ei basport Prydeinig.

Yn fowliwr cyflym sy’n gallu cyrraedd 90m.y.a., mae e wedi cynrychioli De Affrica mewn gemau prawf ac undydd, ac mae e wedi cipio 26 o wicedi mewn gemau rhyngwladol, gan gynnwys saith wiced yn erbyn Sri Lanca yn ei gêm gyntaf dros y wlad ond dydy e ddim wedi cynrychioli’r Proteas ers 2016.

Mae e wedi cipio 339 o wicedi dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa – gan gynnwys 90 yn ei bum tymor yn y gêm sirol – a 152 o wicedi mewn gemau ugain pelawd, gan gynnwys 57 o wicedi yn ei bedwar tymor yn y Vitality Blast.

Yn 2017, cipiodd e 18 o wicedi i Forgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals am y tro cyntaf ers 2004.

Fe hefyd sydd â’r record am y canred cyflymaf erioed gyda’r bat i Forgannwg, wrth sgorio 113 oddi ar 62 o belenni yn erbyn Swydd Northampton yn 2020.

Marchant de Lange

Brexit a rheolau Kolpak yn gorfodi bowliwr cyflym Morgannwg i adael am Wlad yr Haf

Chwaraewr tramor fydd e yng Ngwlad yr Haf, yn dilyn misoedd o “ansicrwydd”
Marchant de Lange

Record o fatiad Marchant de Lange yn cadw Morgannwg o fewn cyrraedd yn Northampton

Canred oddi ar y nifer leiaf o belenni i’r sir mewn gêm pedwar diwrnod yn rhoi llygedyn o obaith ar drothwy’r diwrnod olaf yn erbyn Swydd Northampton

Bowliwr cyflym De Affrica’n symud i Forgannwg

Marchant de Lange wedi arwyddo cytundeb tair blynedd