Doedd pedair wiced y capten a throellwr Kiran Carlson ddim yn ddigon i achub tîm criced Morgannwg, wrth iddyn nhw golli o chwe wiced yn erbyn Swydd Northampton yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Northampton.
Dyma’r ail golled yn olynol iddyn nhw ar ôl iddyn nhw ennill eu dwy gêm gyntaf.
Tarodd Ricardo Vasconcelos 104 oddi ar yr un nifer o belenni, ei ail ganred mewn gêm Rhestr A, i sicrhau’r fuddugoliaeth ar ôl taro 17 ergyd i’r ffin.
Adeiladodd e ac Emilio Gay bartneriaeth o 188 am y wiced gyntaf wrth i’w tîm gwrso 222 i ennill, gan gyrraedd y nod gydag 85 o belenni’n weddill.
Cipiodd troellwr arall, Saif Zaib, ffigurau gorau ei yrfa – pedair wiced am 23, gyda’r bowliwr cyflym Ben Sanderson yn cipio tair am 17.
Daeth cyfraniad Zaib ar yr adeg gywir i’r Saeson yn dilyn cyfraniad o 65 gan y gogleddwr David Lloyd i Forgannwg, a gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 55 o belenni, wrth i’w dîm geisio taro’n ôl o 22 am bedair o fewn chwe phelawd – chwalfa sydd wedi dod yn rhy gyffredin i’r sir Gymreig dros y tymhorau diwethaf.
Er i Lloyd a Joe Cooke adeiladu partneriaeth o 94, collodd y ddau eu wicedi i Zaib.
Erbyn i fatiad Joe Cooke (39) ddod i ben, roedd Morgannwg mewn rhywfaint o drafferth ar 125 am chwech.
Daeth rhywfaint o wrthsafiad gan Dan Douthwaite (30 heb fod allan) tua’r diwedd ond roedd perfformiadau siomedig y batwyr o’i flaen eisoes wedi gwneud niwed sylweddol i’w gobeithion o ennill y gêm.
Cwrso’n llwyddiannus
Daeth partneriaeth agoriadol Swydd Northampton i ben ar ôl 29.1 o belawdau, wrth i Carlson waredu Gay a gafodd ei ddal yn sgwâr gan Sam Northeast.
Cafodd y capten Will Young ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Tom Cullen bedair pelen yn ddiweddarach, gyda Vasconcelos yn colli’i wiced yntau belawd a hanner wedyn wrth i Carlson daro’i goes o flaen y wiced wrth i’r batiwr geisio sgubo.
Roedd y Saeson yn 210 am bedair pan yrrodd Saif Zaib yn syth at Joe Cooke, wrth i Carlson gipio’i bedwaredd wiced, ond cyrhaeddodd y tîm cartre’r nod ddwy belawd yn ddiweddarach.