Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi lansio cronfa werth £1.5m i hyrwyddo a dathlu Cymru.

Daw hyn 100 diwrnod union tan gêm gyntaf Cymru – yn erbyn yr Unol Daleithiau – yng Nghwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gronfa’n cefnogi amryw o sefydliadau diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a’r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd.

Ymhlith y cynlluniau mae darparu digwyddiadau er mwyn cymryd rhan mewn chwaraeon, cysylltu â’r Cymry ar wasgar, a helpu cefnogwyr i ddathlu’r gemau yma yng Nghymru a ledled y byd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw’n defnyddio’r twrnament i hyrwyddo Cymru’n fyd-eang, gan “amlygu gwerthoedd ein gwlad a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru”.

‘Syniadau cyffrous, arloesol ac effeithiol’

“Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir o 100 diwrnod, gallwch wir deimlo’r cyffro yng Nghymru. Dw i’n methu aros i fod yn rhan o’r Wal Goch yn Qatar,” meddai Vaughan Gething.

“Dw i’n falch iawn o lansio’r gronfa £1.5m hon heddiw, a fydd yn helpu ein partneriaid i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn a rhoi hwb i broffil Cymru a sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru.

“Mae cyfranogiad Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon byd-eang yn un o’r cyfleoedd gorau un i hybu proffil ein gwlad a dangos i’r byd fod Cymru yn wlad agored, groesawgar ac uchelgeisiol.

“Tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA yw’r cyfle pwysicaf i farchnata ac ar gyfer diplomyddiaeth chwaraeon a gafwyd erioed – a byddwn yn gwneud y mwyaf ohono.

“Rydym yn chwilio am syniadau cyffrous, arloesol ac effeithiol fydd yn gwneud i Gymru sefyll allan yn ystod Cwpan y Byd.”