Drannoeth y golled i’r Tân Cymreig neithiwr (nos Sadwrn, Awst 13), mae tîm criced Morgannwg yn herio Essex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Chelmsford.

Cael a chael oedd hi i dîm prifddinas Cymru yn erbyn Birmingham Phoenix yng Ngerddi Sophia neithiwr, wrth iddyn nhw golli o bedwar rhediad, gyda’r Phoenix ond wedi sgorio 130 cyn i David Miller, cyn-fatiwr Morgannwg, sgorio 35 oddi ar 30 o belenni i roi llygedyn o obaith i’w dîm.

Colli fu hanes Morgannwg hefyd yn eu dwy gêm ddiwethaf yng Nghwpan Royal London, yn erbyn Swydd Efrog a Swydd Northampton.

Yn sgil y canlyniadau hynny, roedd disgwyl sawl newid ac fe fydd dau wyneb newydd yn y tîm, y batiwr agoriadol Tom Bevan a’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya.

Mae Bevan wedi sgorio canred ym mhob fformat i’r ail dîm eleni, ac fe chwaraeodd e yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, fis diwethaf wrth iddo wthio am le yn y tîm cyntaf.

Mae Sisodiya eisoes wedi sicrhau ei le yn y tîm ugain pelawd.

Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl, ar ôl ennill dwy gêm a cholli dwy hyd yn hyn, ac mae Essex yn chweched ar ôl ennill un a’r llall wedi dod i ben heb ganlyniad yn sgil y tywydd.

Gemau’r gorffennol

Mae gan Forgannwg record siomedig yn erbyn Essex mewn gemau undydd Rhestr A yn ddiweddar.

Dydyn nhw ddim wedi ennill yn Chelmsford ers 2009, gydag Essex wedi ennill dwy ac un arall wedi dod i ben heb ganlyniad ers hynny.

Cyn y fuddugoliaeth honno 13 o flynyddoedd yn ôl, roedd Essex yn fuddugol yn 2006 yn Chelmsford ac yn 2008 yn Nghaer Colyn (Colchester).

Ar drothwy’r gêm hon, mae angen canred arall ar Colin Ingram er mwyn efelychu Hugh Morris (13 canred mewn gemau undydd), tra ei fod e bedwar y tu ôl i Matthew Maynard, sydd â’r record o 16. Mae pump o’r rheiny yn erbyn Essex a thri yn Chelmsford.

Tîm Essex: J Rymell, F Khushi, T Westley (capten), G Roelofsen, R Das, L Benkenstein, A Beard, A Nijjar, S Snater, J Richards, R Toole

Tîm Morgannwg: D Lloyd, S Northeast, C Ingram, K Carlson (capten), T Bevan, T Cullen, D Douthwaite, A Salter, J Weighell, J Harris, P Sisodiya

Sgorfwrdd